Gofynion dogfennau adnabod ar gyfer cyrsiau
Cwestiynau Cyffredin
Gofynion dogfennau adnabod ar gyfer cyrsiau
Un o amodau’r cynnig cwrs yw fod gennych chi ddull adnabod â LLUN wrth gyrraedd y cwrs (pa un ai yw’n gwrs ystafell ddosbarth ffisegol neu’n gwrs rithwir/ar-lein).
Diben hyn yw sicrhau fod yr hyfforddwr yn gallu cadarnhau pwy yw’r cleient sy’n cyflwyno ei hun ar y cwrs.
Enghreifftiau o ddulliau adnabod â llun:
- Trwydded Yrru Cerdyn Llun (NID yw cerdyn llun sydd wedi dod i ben yn dirymu’r drwydded)
- Pasbort dilys
- Pasbort sydd wedi dod i ben
- Cardiau adnabod ffurfiol (lluoedd arfog, heddlu, undeb myfyrwyr, cerdyn adnabod cwmni)
- Cerdyn Tacograff
- Cerdyn adnabod Awdurdod Lleol/Tacsi
- Bathodyn Glas (parcio i bobl ag anableddau)
- Tystysgrif Arfau Tanio/Trwydded Dryll
Ni fydd unrhyw ddogfennau adnabod NAD YDYNT yn cynnwys llun adnabod o’r cleient (e.e. biliau cyfleustodau, tystysgrifau geni/priodas) yn cael eu derbyn a bydd y cleient yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r heddlu
NID yw llungopïau na lluniau a dynnwyd gan ffonau symudol/dyfeisiau yn ddulliau adnabod derbyniol – rhaid i ddogfen wreiddiol fod ar gael i’w hastudio yn ystod y cyfnod cofrestru ar gwrs.
Cyrsiau gydag elfennau ar y ffordd:
Bydd angen trwydded yrru cerdyn llun (neu drwydded bapur gyda dull adnabod arall â llun – gweler y rhestr uchod) pan fydd disgwyl i’r cleient ymgymryd ag elfen ar y ffordd ar gwrs.
Os bydd gan yr hyfforddwr unrhyw amheuaeth neu bryderon ynghylch dilysrwydd y drwydded, bydd gan yr hyfforddwr, ar ran ei ddarparydd, yr hawl i wrthod i’r person hwnnw barhau â’r cwrs.
Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?
Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.