Sut mae fy ffi cwrs yn cael ei defnyddio?
Cwestiynau Cyffredin
Sut mae fy ffi cwrs yn cael ei defnyddio?
Esboniad o’r ffioedd a godir ar yrwyr a reidwyr sy’n dewis derbyn cynnig cwrs:
Telir ffioedd cwrs i’r sefydliad sy’n cyflwyno’r hyfforddiant ac mae gan y ffioedd dair rhan.
Yn gyntaf, mae ffi i dalu’r gost o gyflwyno’r cwrs i’r gyrrwr neu’r reidiwr. Gall heddluoedd ddewis cyflwyno’r cyrsiau eu hunain, neu gallant roi contractau cyflwyno i sefydliadau hyfforddi arbenigol. Mae cost cyflwyno cyrsiau’n amrywio ac yn dibynnu ar nifer o ffactorau:
- cost systemau archebu a chofrestru pobl sy’n mynychu’r cwrs
- cost dosbarthiadau rhithwir ar-lein a chymorth technoleg gwybodaeth
- cost y staff sy’n darparu’r hyfforddiant
- cost llogi’r safle
- nifer y bobl sy’n mynychu/cymhareb y cyfranogwyr i’r hyfforddwyr
- hyd y cwrs
- cost hyfforddi staff
- cost rheoli ansawdd a chydymffurfiad
- TAW lle bo’n berthnasol
Yn ail, mae’r gost sefydlog (£45 ar hyn o bryd) o ‘Ad-dalu Costau’r Heddlu Canolog’, sef ffi a delir i’r heddlu y daeth y cynnig ganddo. Mae’r ffi wedi ei gosod i gydymffurfio â chanllawiau Trysorlys EF ‘Rheoli Arian Cyhoeddus’. Mae’r ffi yn ad-dalu cost y gwaith gweinyddol y mae’n rhaid i’r heddlu ei wneud oherwydd y niferoedd ychwanegol o droseddwyr sydd wedi eu canfod ac y cynigir cwrs iddynt, yn cynnwys:
- cysylltu â cheidwaid cofrestredig, rheolwyr trafnidiaeth, cwmnïau prydlesu a chwmnïau hurio i ganfod pwy yw’r gyrrwr sy’n gyfrifol am y drosedd
- gwirio a yw’r troseddwr yn gymwys i dderbyn cynnig cwrs
- anfon y cynnig at y gyrrwr
- monitro cydymffurfiad â chynnig y cynllun
- monitro presenoldeb y troseddwr
- gwarediad terfynol y drosedd
Mae’r sefydliad hyfforddi’n talu’r ffi hon i UKROEd sydd, yn ei dro, yn ei had-dalu i’r heddlu a fu’n ymdrin â’r drosedd ar y dechrau. Trwy weithio fel hyn, mae’r cyrsiau’n talu amdanynt eu hunain yn hytrach na gorfod derbyn cyllid y byddai angen ei gymryd oddi wrth wasanaethau angenrheidiol iawn eraill. Nid yw’r broses adfer costau hon yn cynnwys y weithred o ganfod y troseddau na chost yr offer a ddefnyddir.
Mae trydedd ran y ffi, sydd hefyd yn sefydlog (£4 ar hyn o bryd), yn mynd i UKROEd i dalu am gostau gweinyddu’r cynllun ar ran yr heddlu. Mae’r costau hynny’n cynnwys y costau gweithredu ar gyfer datblygu a chynnal y systemau cronfa ddata diogel a ddefnyddir i brosesu data troseddwyr, yn ogystal â chynhyrchu cynnwys y cyrsiau, sicrhau safon cyflwyniad y cyrsiau a monitro effeithiolrwydd y cyrsiau. Mae’r sefydliad hyfforddi’n talu’r ffi i UKROEd. Mae UKROEd wedi ei gyfansoddi’n sefydliad nid-er-elw, a rhoddir unrhyw warged sy’n codi o’i weithredoedd i’r Ymddiriedolaeth Diogelwch Ffyrdd. Y gwarged ym mlwyddyn ariannol 2019/20 oedd £0.9 miliwn. Yn y flwyddyn honno, dyfarnodd yr Ymddiriedolaeth Diogelwch Ffyrdd chwe grant gyda chyfanswm o £837,900 ar gyfer ymyriadau ac ymchwil i ddiogelwch y ffyrdd, yn ogystal â chwe menter gyda chyfanswm o £120,000 drwy Raglen Grantiau Bach newydd yr Ymddiriedolaeth.
Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?
Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.