Gofynion Ychwanegol
Cwestiynau Cyffredin
Gofynion Ychwanegol
Fel sefydliad rydym yn trin ymlyniad at Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fel blaenoriaeth, yn arbennig yn y modd y gofynnwn i’n darparwyr gyflwyno i’r cyhoedd ar ran Gwasanaeth Heddlu’r DU.
Bydd unrhyw addasiad rhesymol yn ystyried y ffordd orau o sicrhau darpariaeth ar gyfer cais er budd pawb ar y cwrs, a dylai hyn gael ei drefnu yn unigol gyda’r mynychwr cyn y cwrs neu yn ystod y cyfnod archebu fel y gall Darparydd y Cwrs fynd ati i wneud trefniadau.
Mae’r addasiadau rhesymol hyn yn cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r canlynol:
- Amser gweddïo
- Gofynion Iaith Arwyddion Prydain – BSL
- Anableddau gweladwy ac anweladwy
- Bwydo ar y fron (gweler rhagor o gwestiynau cyffredin ar hyn)
- Angen gofalwr/dehonglydd
Mae’n rhaid i bawb sydd ar y cwrs fynychu’r cwrs cyfan er mwyn ei gwblhau.
Ceisiwch benderfynu pa amser fyddai orau i chi.
Os bydd unigolyn ag anghenion arbennig yn absennol yn ystod unrhyw ran o’r cwrs heb ganiatâd gallai hynny olygu ei fod yn methu â chwblhau’r cwrs a gallai hynny olygu fod y drosedd yn dychwelyd i’r broses cyfiawnder troseddol.
Er mwyn cael mynediad i safle archebu cwrs a chysylltu â darparydd cwrs i drafod eich gofynion, dilynwch y cyfarwyddiadau isod.
Ewch i https://offer.ndors.org.uk lle byddwch yn gallu cael mynediad i fanylion eich Cynnig Cwrs drwy wneud hyn:
- COFRESTRU: Nodi’r Cyfeirnod a’r PIN sydd yn eich llythyr Cynnig Cwrs, neu eich Cyfeirnod a nodi eich Rhif Gyrrwr yn y maes PIN yn lle rhif PIN
NEU
- MEWNGOFNODI: Os gwnaethoch ddewis creu cyfrif o’r blaen, ac os ydych wedi dilysu eich cyfeiriad e-bost, gallwch fewngofnodi gyda’ch cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair. Gallwch hefyd ddefnyddio’r ddyfais “Wedi anghofio eich Cyfrinair” i osod neu i ail-osod eich cyfrinair os gwnaethoch ddarparu cyfeiriad e-bost wrth gofrestru.
Bydd y ddau ddull yn mynd â chi i’r Dangosfwrdd:
- Bydd clicio ar “Gweld Fy Nghyrsiau” yn caniatáu ichi chwilio am Leoliad Cwrs cyfleus neu i ddarganfod eich archeb gyfredol. Bydd hyn yn caniatáu ichi gysylltu â’r darparydd cwrs os byddwch angen newid dyddiad neu amser eich cwrs os bydd angen neu i wneud rhagor o ymholiadau.
- Bydd clicio ar “Rheoli Fy Manylion” yn caniatáu ichi weld a diweddaru’r manylion a ddarparwyd gennych wrth gofrestru – gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost.
Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?
Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.