Norfolk
Cwestiynau Cyffredin
Norfolk
Cwrs Digidol NDORS Norfolk County Council – Cwestiynau Cyffredin
Isod ceir atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir am y cyrsiau ar-lein digidol NDORS yr ydym yn eu darparu.
- Sut ydw i’n cysylltu â’m darparydd cwrs?
Gellir dod o hyd i fanylion cysylltu Norfolk County Council ar y neges gadarnhad archebu a anfonwyd i chi drwy e-bost. Gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 01603 638136 yn ystod oriau gwaith neu fel arall drwy anfon e-bost atom i: [email protected]
- Beth fydd ei angen arnaf ar gyfer fy nghwrs?
Er mwyn mynychu eich cwrs digidol, byddwch angen cael mynediad at liniadur neu lechen a gofalu bod gennych gysylltiad da â’r rhyngrwyd. Gellir defnyddio ffonau clyfar ond bydd y cwrs yn llawer mwy effeithiol os bydd gennych sgrin fwy. Bydd angen i’ch dyfais gael digon o bŵer i bara drwy gydol eich cwrs, felly mae’n well ei chadw wedi’i phlygio i’r prif gyflenwad. Rydym yn argymell eich bod yn gwisgo clustffonau sain i sicrhau bod y cwrs yn fwy preifat, ond nid yw hyn yn hanfodol. Wrth fynychu eich cwrs, rhaid i chi fod mewn ystafell breifat heb unrhyw beth yn aflonyddu arnoch. Cofiwch sicrhau fod gennych feiro a phapur wrth law er mwyn gallu gwneud nodiadau.
Mae’n rhaid i chi ddarparu dogfen adnabod â ffotograff i fynychu eich cwrs. Ni dderbynnir llungopïau a delweddau.
Gweler ein Telerau ac Amodau yn https://www.norfolkcourses.org/maps/Digital%20T&Cs.pdf
- Ar ba blatfform mae’r cwrs yn cael ei gynnal?
Bydd eich cwrs digidol yn cael ei gyflwyno ar Zoom.
Bydd y cyfarwyddiadau ymuno a’r ddolen Zoom ar gyfer eich cwrs yn cael eu hanfon i chi drwy e-bost 48 awr cyn dyddiad eich cwrs.
Os ydych chi’n defnyddio ffôn clyfar neu lechen, efallai yr hoffech chi osod yr ap Zoom cyn eich cwrs. Sylwer: efallai y bydd angen i chi addasu’r gosodiadau sain ar gyfer yr ap ar eich dyfais benodol.
- Sut ydw i’n gweld fy nghyrsiau?
Byddwch yn cael mynediad i’ch cwrs drwy’r ddolen Zoom a fydd yn cael ei hanfon ichi drwy e-bost 48 awr cyn dyddiad eich cwrs. Os ydych wedi gosod ap Zoom ar eich llechen neu eich dyfais ffôn clyfar, gallwch gael mynediad hefyd i’ch cwrs gan ddefnyddio’r rhif adnabod a’r cyfrinair ar gyfer y cyfarfod.
- Rydw i wedi archebu fy nghwrs. Pryd fyddaf i’n derbyn fy nghyfarwyddiadau ymuno a ble ydw i’n dod o hyd iddynt?
Bydd eich cyfarwyddiadau ymuno yn cael eu hanfon drwy e-bost ichi 48 awr cyn dyddiad eich cwrs. Nodwch y byddwn yn defnyddio’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych pan wnaethoch archebu’r cwrs gyda ni felly gofalwch fod y manylion hyn yn gywir.
Os na fyddwch yn derbyn eich cyfarwyddiadau ymuno o fewn yr amserlen a nodir uchod, chwiliwch yn eich blwch sbam/sothach neu cysylltwch â ni ar unwaith drwy ffonio 01603 638136 (yn ystod oriau gwaith) neu drwy e-bost: [email protected]
- Rydw i ar fin mynd ar fy nghwrs ond allaf i ddim cael mynediad iddo. Ble allaf i ddod o hyd i’r cyfarwyddiadau ymuno?
Chwiliwch yn eich blwch sothach/sbam. Nodwch ein bod yn dibynnu ar y ffaith bod eich cyfeiriad e-bost yn gywir pan wnaethoch chi archebu’r cwrs.
Os ydych wedi datdanysgrifio rhag derbyn negeseuon e-bost o’n system archebu, [email protected], cysylltwch â’n swyddfa ar unwaith.
- Dydw i ddim yn ‘dechnegol’ iawn ac rwy’n poeni na fyddaf yn gallu dilyn fy nghwrs. Pa gymorth sydd ar gael ar gyfer hyn?
Cyn belled â bod gennych yr offer angenrheidiol, caniateir i chi gael ffrind neu aelod o’ch teulu i’ch helpu i fewngofnodi i’ch cwrs, ond bydd gofyn iddynt adael yr ystafell unwaith y bydd eich cwrs yn dechrau.
Os nad oes gennych yr offer angenrheidiol na’r cymorth angenrheidiol i fynychu eich cwrs, bydd angen ichi adolygu’r opsiynau a anfonwyd atoch gan yr awdurdod Heddlu hwnnw a anfonodd y llythyr cynnig gwreiddiol atoch.
- Efallai y byddaf angen dehonglydd/cyfieithydd ar gyfer fy nghwrs. Sut ydw i’n trefnu hyn?
Bydd yn bosibl i ffrind neu aelod o’ch teulu fynychu’r cwrs gyda chi i gynorthwyo ar gyfer dehongli neu gyfieithu. Bydd angen iddynt fod yn 17 oed neu’n hŷn a bydd rhaid ichi gadarnhau eu manylion e.e. eu henwau a’u perthynas â chi gyda’n swyddfa ymlaen llaw cyn dyddiad eich cwrs. Bydd angen iddynt hefyd ddarparu llun adnabod ac aros gyda chi drwy gydol y cwrs. Os byddwch angen i Norfolk County Council drefnu dehonglydd/cyfieithydd ar eich cyfer, gofalwch eich bod yn darparu’r manylion llawn inni e.e. yr iaith sydd ei hangen a dyddiad ac amser y cwrs rydych chi wedi’i archebu. Nodwch, bydd rhaid i chi roi o leiaf 10 diwrnod o rybudd inni er mwyn inni allu trefnu dehonglydd/cyfieithydd ar eich cyfer. Efallai y bydd hyn yn golygu y bydd angen newid dyddiad/amser eich cwrs. Sicrhewch eich bod yn cysylltu â’n swyddfa drwy ffonio 01603 638136 (yn ystod oriau gwaith) neu drwy e-bost: [email protected]
- Beth sy’n digwydd os byddaf yn cael anawsterau technegol ac os byddaf yn colli cysylltiad yn ystod fy nghwrs?
Bydd hyfforddwr eich cwrs yn datgloi’r cwrs am 10 munud i’ch galluogi i ail-ymuno â’ch cwrs. Os nad ydych yn llwyddiannus o fewn yr amser hwn, bydd angen i chi gysylltu â’n swyddfa i ail-archebu.
- Beth sy’n digwydd os yw fy manylion cysylltu wedi newid? Sut ydw i’n mynd ati i’w diweddaru?
Er mwyn diweddaru unrhyw newidiadau i’ch manylion cysylltu megis rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost, bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif DORS drwy fynd i https://offer.ndors.org.uk. Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair i gael mynediad iddo. Diweddarwch eich manylion o dan y dudalen ‘Rheoli Fy Ngwybodaeth’.
- Sut allaf i wirio pryd mae fy nghwrs wedi cael ei archebu?
Er mwyn gwirio’r archeb rydych chi wedi’i wneud, mewngofnodwch i’ch cyfrif DORS drwy fynd i https://offer.ndors.org.uk. Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair i fewngofnodi a chliciwch ar ‘Gweld fy Nghwrs’. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei hanfon drwy e-bost i chi hefyd pan fyddwch yn archebu gyda ni.
- Rydw i eisiau newid dyddiad fy nghwrs. Sut ydw i’n gwneud hyn?
Er mwyn newid dyddiad eich cwrs ewch i https://offer.ndors.org.uk a mewngofnodwch i’ch cyfrif. Dewiswch ‘Gweld fy Nghyrsiau’ a chlicio ar ail-archebu cwrs (byddwch yn cael eich ailgyfeirio i borth archebu Norfolk).
Gallwch ail-archebu cwrs gyda ni ar-lein neu dros y ffôn yn rhad ac am ddim os byddwch yn rhoi rhybudd o ddau ddiwrnod gwaith inni ar ôl dyddiad gwreiddiol yr archeb. Os byddwch o fewn y cyfnod amser hwn bydd y botwm ‘ail-drefnu’ yn ymddangos ar y sgrin. Os nad yw hwn yn ymddangos, bydd rhaid ichi gysylltu â’n swyddfa drwy ffonio 01603 638136.
- Rydw i’n ceisio archebu ar-lein ond nid yw’r botwm talu i’w weld.
Er mwyn archebu cwrs ar-lein yn llwyddiannus mae’n rhaid ichi ddewis eich cwrs yn ôl dyddiad, enw’r ganolfan (h.y. iNSAC, iWDU neu NRRAC) a lleoliad y ganolfan (bydd hyn yn digwydd AR-LEIN). Unwaith y bydd y rhain wedi cael eu dewis yn llwyddiannus, bydd yr opsiwn talu yn ymddangos ar y sgrin.
- Does ‘na ddim cyrsiau ar gael ar-lein. Sut allaf i archebu fy nghwrs?
Pan fyddwch yn mewngofnodi i borth cynnig DORS bydd y system yn dychwelyd i’r ardal sy’n seiliedig ar eich cyfeiriad chi. Os nad oes unrhyw gyrsiau ar gael ichi o fewn yr amser a neilltuwyd i chi gan yr Heddlu, dylech ehangu eich opsiynau chwilio i gynnwys darparwyr eraill. Gwnewch hynny drwy deipio yn y bar ‘Chwilio Lleoliad Cwrs’ e.e. ‘Suffolk’ neu ‘Essex’ a chlicio ar ‘Chwilio’. Bydd y map gyda’r pinnau melyn yn nodi’r darparwyr sy’n cynnal cyrsiau ar-lein digidol.
- Hoffwn i fynd ar gwrs sydd wedi ei seilio mewn ystafell ddosbarth; sut allaf i archebu un o’r rheiny?
Rydym yn cynnal nifer fechan o gyrsiau ystafell ddosbarth. Byddwch yn ymwybodol y gallai lleoedd fod yn gyfyngedig. Mae’n bosibl archebu cyrsiau ystafell ddosbarth mewn nifer gyfyngedig o leoliadau. Ewch i https://offer.ndors.org.uk yn ystod oriau gwaith i weld beth sydd ar gael.
- Rydw i’n bwydo ar y fron ar hyn o bryd. A fydd hyn yn effeithio ar fy nghwrs digidol?
Caniateir amser ichi fwydo ar y fron. Bydd manylion ynglŷn â’r amseroedd yn cael eu trafod yn uniongyrchol â’ch hyfforddwr yn ystod y broses fewngofnodi. Gofalwch fod hyn yn cael ei nodi dan ‘Gofynion Arbennig’ pan fyddwch yn archebu.
- Mae gen i broblemau meddygol penodol. Sut fydd hyn yn effeithio ar fy nghwrs?
Gofalwch fod unrhyw ofynion arbennig yn cael eu datgan pan fyddwch yn archebu. Gallwch drafod eich anghenion gyda’ch hyfforddwr yn ystod y broses fewngofnodi.
- Rydw i wedi cael cynnig cwrs Gyrru Diogel ac Ystyriol. Sut ydw i’n mynd ati i archebu hwn?
Mae’r lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer y cwrs hwn a dim ond ar y ffôn y gellir eu harchebu. Ffoniwch 01603 638136 (yn ystod oriau gwaith).
Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?
Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.