Essex
Cwestiynau Cyffredin
Essex
Cwestiynau Cyffredin ar gyfer cyrsiau NDORS Essex – the Safer Essex Roads Partnership
Sut ydw i’n cysylltu â darparydd cwrs Essex?
- E-bost: [email protected]
- Ewch i’n gwefan yn http://Saferessexroads.org
- Ffoniwch ni ar 03330 137590 (Dydd Llun – Dydd Gwener 8.00am – 4.30pm)
- Bydd arnoch angen eich llythyr cynnig cwrs, trwydded yrru a cherdyn talu.
Cyrsiau Ystafell Ddosbarth
Beth sydd ei angen arnaf ar gyfer fy nghwrs ystafell ddosbarth?
- Bydd yn rhaid i chi ddod â math derbyniol o gerdyn adnabod gyda llun e.e. eich trwydded yrru cerdyn llun neu basbort. Ni fyddwch yn cael mynediad heb gerdyn adnabod cywir. Ni dderbynnir llungopïau neu luniau ohonynt.
- Ni fyddwch yn cael mynediad os byddwch yn cyrraedd yn hwyr. Os gwelwch yn dda, caniatewch ddigon o amser a chynlluniwch eich taith gan ystyried yr amodau teithio a’r cyfleusterau parcio sydd ar gael.
A fydd cyfleuster parcio ar gael?
- Nid oes sicrwydd y bydd lle parcio ar gael yn unrhyw un o’n canolfannau. Y cyntaf i’r felin fydd hi.
Cyrsiau Digidol Ar-lein
Beth fydd ei angen arnaf ar gyfer fy nghwrs digidol?
- Dyfais addas h.y. gliniadur, llechen, ffôn clyfar neu gyfrifiadur bwrdd gwaith (gyda microffon a chamera).
- Cysylltiad rhyngrwyd dibynadwy sy’n gallu ffrydio fideo a rhaid cael digon o wefr yn y batri i barhau drwy gydol y cwrs.
- Cerdyn/dogfen adnabod â llun h.y. trwydded yrru cerdyn llun neu basbort.
- Papur a beiro
- Amgylchedd tawel heb ddim yn tynnu eich sylw
Sut ydw i’n cwblhau’r cwrs digidol ar-lein?
- Ewch i ‘Accessing our digital courses’ i gael gwybodaeth ar sut i gwblhau eich cwrs ar-lein gan ddefnyddio Zoom:
https://saferessexroads.org/policecommunity/ndors/
Sut ydw i’n cael mynediad i’r cwrs?
- Byddwch yn derbyn e-bost 24 awr cyn dyddiad eich cwrs gyda dolen ymuno a chyfrinair. Os na fyddwch wedi derbyn y ddolen, chwiliwch yn eich ffolder ‘sothach’.
- Os ydych yn dal i fethu cael mynediad i’r cwrs, ffoniwch y tîm archebu ar 03330 137590 (Dydd Llun – Dydd Gwener 8.00am – 4.30pm) neu drwy e-bost yn: [email protected]
Faint mae’r cwrs yn gostio?
- Yn Essex mae ffioedd y cyrsiau fel a ganlyn:
Cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder Cenedlaethol – £90.00
Cwrs Traffyrdd Cenedlaethol – £90.00
Cwrs Beth sy’n ein Gyrru Ni – £90.00
Cwrs Gyrru Diogel ac Ystyriol – £175.00
Ride – £100.00
Er mwyn trafod yr opsiwn o dalu fesul tipyn, cysylltwch â’n swyddfa archebu ar 03330 137590.
Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?
Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.