Lancashire
Cwestiynau Cyffredin
Lancashire
- Sut ydw i’n cysylltu â NDORS Swydd Gaerhirfryn?
Ymholiadau ac archebu dros y ffôn – 01772 410950
Ymholiadau e-bost – [email protected]
- A fyddaf yn teithio i safle i gwblhau fy nghwrs?
Mae pob cwrs yn digwydd drwy fideo-gynadledda, gartref gan ddefnyddio dyfais addas a microffon a chamera sy’n wynebu ymlaen – peidiwch â theithio i unrhyw rai o’n safleoedd i wneud eich cwrs.
- Ar ba blatfform mae’r cwrs yn cael ei gynnal?
Mae’r cwrs ar-lein yn cael ei ddarparu ar y platfform Zoom. Gallwch fynd ar y cwrs ar gyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar a byddwn yn anfon cyfarwyddiadau llawn atoch ynglŷn â sut i agor Zoom pan fyddwch yn archebu eich cwrs.
Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn rhoi cynnig ar ddefnyddio Zoom cyn eich cwrs er mwyn dod yn gyfarwydd ag o. Efallai y gallech ofyn i ffrind neu berthynas osod cyfarfod i chi ymuno ag o cyn dyddiad eich cwrs. Ar wefan Zoom mae digonedd o wybodaeth i’ch helpu i ymuno – zoom.us
Gallwch hefyd drefnu cyfarfod prawf ar wefan zoom drwy ddilyn zoom.us/test
Does dim rhaid i chi dalu am Zoom; unwaith y byddwch wedi talu eich ffi am y cwrs, ni fydd unrhyw dâl pellach.
- Dydw i ddim yn deall rhyw lawer am dechnoleg ac rwy’n poeni na fyddaf yn gallu cymryd fy nghwrs rhithiol/ar-lein. Beth ddylwn i wneud?
Mae Cwnstabliaeth Swydd Gaerhirfryn yn rhedeg cyrsiau rhithiol/ar-lein yn bennaf. Efallai y bydd hi’n bosibl i aelod o’ch teulu neu ffrind eich helpu gyda thechnoleg anghyfarwydd. Mae’n rhaid i chi fod ar eich pen eich hun i gwblhau’r cwrs ond rydym yn fodlon i chi gael rhywun yn gwmni i chi i ddechrau ar y diwrnod er mwyn eich helpu i osod popeth. Rydym yn cael llawer o gleientiaid sydd â phryderon tebyg sy’n cwblhau eu cwrs rhithiol yn llwyddiannus unwaith y mae aelod o’r teulu neu ffrind wedi rhoi cymorth neu arweiniad iddynt.
Ond, rydym bellach yn y broses o ddychwelyd yn raddol at gyrsiau ystafell ddosbarth. Os teimlwch mai cwrs mewn ystafell ddosbarth fyddai eich dewis opsiwn chi, gallwch anfon e-bost neu ffonio ein tîm NDORS i drafod hyn.
- Sut ydw i’n mynd i mewn i’m cwrs?
O leiaf 24 awr cyn i’ch cwrs gychwyn, byddwch yn derbyn e-bost sy’n cynnwys dolen i fynd i mewn i ystafell ddosbarth y cwrs. Cliciwch ar y ddolen hon 15 munud cyn i’ch cwrs gychwyn.
Os na fyddwch yn derbyn e-bost sy’n cynnwys dolen i’r ystafell ddosbarth, edrychwch yn eich ffolder sothach/sbam cyn cysylltu â ni ar y ffôn neu drwy e-bost.
- Beth fydd ei angen arnaf ar gyfer fy nghwrs?
Bydd rhaid i chi ddangos ID gyda llun arno i’r hyfforddwr cyn i’ch cwrs ddechrau. Ni fydd copïau o ID yn dderbyniol. Os nad oes gennych ID gyda llun arno, cysylltwch â ni drwy e-bost neu dros y ffôn.
Bydd angen lle tawel heb unrhyw beth yn amharu arnoch a signal rhyngrwyd sefydlog.
Gwnewch yn siŵr bod gennych bapur a beiro wrth law.
Bydd angen i chi ymuno â’r cwrs 15 munud cyn yr amser cychwyn. Os ydych yn hwyr, efallai na fydd caniatâd i chi ymuno â’r cwrs.
- Pa mor hir yw’r cwrs ac a fyddaf yn cael egwyl?
Mae’r cwrs yn ddwy awr a hanner o’r dechrau hyd y diwedd, gydag egwyl o 10-15 munud tua hanner ffordd drwyddo.
- Rydw i’n cael anawsterau technegol wrth gysylltu â’r cwrs. Beth ddylwn i wneud?
Y cyngor gorau yw bod yn agos at lwybrydd eich rhyngrwyd. Os oes gennych ddyfeisiau eraill sydd angen y rhyngrwyd, diffoddwch nhw a bydd hyn yn cryfhau eich signal. Bydd Zoom yn dweud wrthych am alluogi eich sain a’ch fideo. Gwnewch yn siŵr eich bod yn clicio i ganiatáu hynny pan gewch eich promptio. Os nad ydych wedi gwneud hyn, ceisiwch allgofnodi o Zoom a chlicio ar y ddolen i’r ystafell ddosbarth eto.
Os nad yw eich microffon neu eich camera’n gweithio, efallai y bydd angen i chi newid caniatâd yr ap ar gyfer zoom:
Os ydych ar ddyfais Android (Samsung, Huawei ac ati) dilynwch: https://support.google.com/android/answer/9431959?hl=en
Os ydych ar ddyfais Apple dilynwch:
https://www.howtogeek.com/211623/how-to-manage-app-permissions-on-your-iphone-or-ipad/
Os bydd problemau’n parhau cysylltwch â ni eto ar y ffôn, neu ebostiwch pan fydd ein llinellau ar gau.
- Ni allaf fynd ar fy nghwrs. Beth ddylwn i wneud?
Rhowch gymaint o rybudd ag y gallwch os byddwch angen ail drefnu eich cwrs. Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost neu, yn well fyth, dros y ffôn. Efallai y bydd angen i chi dalu costau gweinyddol – gweler ein hamodau a thelerau sydd wedi eu nodi yn eich e-bost i gadarnhau eich archeb.
- Rydw i’n hwyr yn agor fy nghwrs ac mae’r ystafell aros wedi ei choli. Beth ddylwn i wneud?
Cysylltwch â ni gynted ag y gallwch ar y ffôn neu’r e-bost. Os na fyddwch yn cysylltu â ni o fewn un diwrnod gwaith, cewch eich cyfeirio’n ôl yn awtomatig at yr heddlu a roddodd eich tocyn i chi.
Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?
Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.