doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Suffolk

Cwestiynau Cyffredin

Suffolk

Sut ydw i’n cysylltu â’m darparydd cwrs?

Gallwch ffonio’r swyddfa rhwng 09.00 a 16.30 ar 0345 600 1291 neu 0345 606 6043 neu anfon e-bost i:
[email protected]

Oes raid i mi deithio i safle i gwblhau fy nghwrs?

Nac oes. Mae’r cyrsiau’n cael eu darparu mewn ‘dosbarth ar-lein’ y gallwch fynd i mewn iddo o’ch cartref.

Beth ddylwn i ei wneud os na allaf gymryd rhan mewn cwrs ar-lein?

Os nad yw’r dechnoleg gennych i gymryd rhan mewn cwrs ar-lein, rydym yn cynnig nifer gyfyngedig o sesiynau mewn ystafell ddosbarth ar ein safle yn Ipswich. Bydd y lleoedd yn mynd i’r rhai sy’n gofyn gyntaf.

Cysylltwch â’r swyddfa ar: 0345 600 1291 neu 0345 606 6043 i gael rhagor o gyngor.

Beth fydd ei angen arnaf i ymuno â’m cwrs?

Gwnewch yn siŵr bod gennych eich trwydded yrru wrth law. Y ffordd hawsaf o ddangos pwy ydych chi yw dangos eich trwydded yrru cerdyn llun i’r hyfforddwr. Os nad yw eich trwydded yn cynnwys ffotograff bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ffotograffig ychwanegol, fel pasbort neu ddewis arall sy’n addas. Fyddwch chi ddim yn gallu cymryd rhan heb ID ffotograffig. Byddwch angen beiro a phapur hefyd.

Ar ba blatfform mae’r cwrs yn rhedeg?

Mae’r cyrsiau’n cael eu darparu ar blatfform ar-lein Zoom.

I gael rhagor o wybodaeth gallwch wylio fideo tiwtorial ZOOM: https://support.zoom.us/hc/en-us/articles/201362193-How-Do-I-Join-A-Meeting

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ymuno â’r ystafell ddosbarth ddigidol 15-20 munud cyn amser cychwyn y cwrs rhag ofn y cewch chi unrhyw anawsterau technegol. Ni fydd y rhai sy’n cyrraedd yn hwyr yn gallu cymryd rhan.

Rydw i wedi archebu fy nghwrs. Pryd fyddaf i’n derbyn fy nghyfarwyddiadau ymuno a ble maen nhw?

Byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau cyn gynted ag y byddwch wedi archebu eich cwrs a bydd hwn yn cadarnhau’r dyddiad a’r amser. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y Telerau a’r Amodau. Byddwch yn derbyn neges e-bost arall sy’n cynnwys y ddolen ‘Zoom’ ar gyfer eich cwrs cyn iddo gychwyn. Nodwch: efallai na fydd hon yn cael ei hanfon tan y prynhawn ar y diwrnod cyn eich cwrs. Edrychwch yn eich ffolderi ‘sothach’ a ‘sbam’. Os na fyddwch yn derbyn eich dolen, cysylltwch â’r swyddfa ar: 0345 600 1291 neu ar [email protected].

Sut ydw i’n mynd i mewn i’m cwrs?

Bydd y ddolen ‘Zoom’ y byddwch yn ei derbyn yn caniatáu i chi fynd i mewn i ‘ystafell gyfarfod’ y cwrs: O gyfrifiadur neu liniadur, cliciwch ar y ddolen y byddwn yn ei hanfon atoch. Pan gewch chi eich annog i wneud hynny, dewiswch ‘Run’, yna dewiswch ‘Join with Video’. Rhowch eich ENW CYNTAF YN UNIG (bydd cleientiaid eraill yn gallu gweld yr enw y byddwn yn ei roi). Dewiswch ‘Join meeting’ Os ydych yn defnyddio ffôn clyfar neu lechen efallai y byddwch eisiau lawrlwytho’r ap ZOOM am ddim cyn y cwrs o’ch siop apiau arferol.

Dydw i ddim yn deall rhyw lawer am dechnoleg ac rwy’n poeni na fyddaf yn gallu cymryd fy nghwrs rhithiol/ar-lein. Pa gymorth all fy narparydd cwrs ei roi i mi?

Os byddwch yn ffonio’r swyddfa ar 0345 600 1291 neu’n anfon e-bost i: [email protected] byddwn yn gallu cynnig arweiniad i chi ar ddefnyddio ‘Zoom’ i fynd ar eich cwrs.

Gallwch hefyd fynd i: https://www.ukroed.org.uk/howto-online/  i gael gwybodaeth ar sut i archebu a

https://support.zoom.us/hc/en-us/articles/201362193-How-Do-I-Join-A-Meeting i gael gwybodaeth am ddefnyddio’r platfform Zoom

Rydw i’n cael anawsterau technegol wrth geisio cysylltu â’r cwrs. Beth allaf i ei wneud?

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn dod yn gyfarwydd â’r platfform Zoom cyn ceisio ymuno â’ch cwrs. Os cewch chi anawsterau ar y diwrnod, gallwch ffonio’r swyddfa ar 0345 600 1291 neu anfon e-bost at: [email protected]  cyn gynted ag y bo modd, a byddwn yn ceisio eich helpu chi ond efallai na fyddwch yn gallu ymuno â’r cwrs os na fydd unrhyw broblemau’n cael eu datrys yn gyflym. Os na allwch ymuno â’r cwrs oherwydd anawsterau technegol, byddwn yn ail archebu cwrs ar eich rhan am ddim (os bydd dyddiadau cau’r Heddlu’n caniatáu hynny).

Dydw i ddim yn gallu mynd ar fy nghwrs oherwydd amgylchiadau esgusodol, beth allaf ei wneud?

Os na allwch fynd ar y cwrs ar y dyddiad yr oeddech wedi ei ddewis yn wreiddiol, mae’n rhaid i chi gysylltu â ni ar unwaith i drefnu dyddiad arall. Yn y mwyafrif o achosion, bydd raid i chi dalu ffi i ail archebu eich cwrs heblaw bod amgylchiadau esgusodol dilys (efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth).

Rydw i’n hwyr i’m cwrs ac mae’r ystafell aros wedi ei choli. Beth allaf i wneud?

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn ymuno â’r cwrs mewn da bryd. Ni fydd y rhai sy’n cyrraedd yn hwyr yn gallu cymryd rhan. Bydd angen i chi ein ffonio ni cyn gynted ag y gallwch i roi gwybod i ni ac ail archebu eich cwrs (os bydd dyddiadau cau’r Heddlu’n caniatáu hynny). Bydd ffi i’w thalu am wneud hyn.

Beth sy’n digwydd os byddaf yn colli cysylltiad yn ystod y cwrs?

Os byddwch yn colli cysylltiad yn ystod y cwrs, ceisiwch ail ymuno ac arhoswch yn y lle aros am ychydig funudau. Efallai y bydd yr hyfforddwr yn gallu rhoi mynediad i chi eto os ydyn nhw wedi sylwi ac yn gallu rhoi mynediad ichi eto o fewn ychydig funudau. Os na allwch chi ail ymuno, dylech gysylltu â ni cyn gynted ag y gallwch i ail archebu eich cwrs (os oes modd gwneud hyn cyn dyddiad cau’r Heddlu). Byddwch yn gallu ail archebu’r cwrs yn rhad ac am ddim. Ond, drwy archebu cwrs ar-lein rydych yn cytuno bod gennych yr offer cywir a mynediad digonol ar y rhyngrwyd i gymryd rhan a dim ond 3 chais y byddwn yn eu caniatáu i fynd ar-lein cyn eich cyfeirio chi yn ôl at yr Heddlu.

Nodwch, y byddwch angen mynd ar y cwrs llawn eto, pa un a wnaethoch chi golli cysylltiad ai peidio.


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content