doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Datganiad Gwrth-hiliaeth UKROEd Gorffennaf 2024

Mae holl staff UKROEd a phawb sy’n cynrychioli UKROEd ym mha ffordd bynnag y gwnânt hynny, wedi ymrwymo i greu cyfle cyfartal ac atal anghydraddoldeb ym mhob un o’n harferion gwaith. Rydym yn addo herio anghyfiawnder, sicrhau tegwch a chynnal egwyddorion gwrth-hiliaeth. Rydym yn cydnabod bod llawer o hiliau a phobl o gefndiroedd ethnig, yn arbennig pobl Ddu a phobl o dras ddeuol, yn parhau i wynebu anfanteision a rhwystrau, a byddwn yn  herio ac yn diddymu’r rheiny.

Nid ydym yn goddef unrhyw fath o hiliaeth o gwbl. Rydym yn addo gweithredu gyda dewrder a bod yn gyfrifol am ein gweithredoedd a byddwn yn mynd ati’n rhagweithiol i holi pam y mae anfanteision a rhwystrau’n bodoli, i ddeall trawma, ac i gydnabod y baich ar y bobl hynny sydd â phrofiad byw o’r rhwystrau a’r anfanteision. Byddwn yn cymryd camau lle bo modd i ddiddymu’r rhain neu i leihau eu heffaith. Mae hyn yn cynnwys mynd ati i greu amgylchedd cadarnhaol y mae pawb, yn enwedig pobl o liw, yn teimlo’n rhan ohono ac yn teimlo eu bod wedi eu cynnwys. Byddwn yn herio gweithredoedd ac agweddau hiliol yn gwbl agored, o fewn y sefydliad, a hefyd gan ein rhanddeiliaid a’r bobl y byddwn yn dod i gysylltiad â nhw. Rydym yn deall y gellir achosi niwed yn anfwriadol: pan fyddwn yn gwneud camgymeriadau, ni fyddwn yn eu cuddio, ond byddwn yn ceisio dysgu o’r profiad a rhannu’r dysgu hwnnw.

Rydym yn disgwyl hyn gan bawb sy’n gweithio i UKROEd ac sy’n cynrychioli UKROEd waeth beth yw eu rôl, er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn un gwrth-hiliol.

Skip to content