doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Datganiad hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd ar gyfer https://offer.ndors.org.uk

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn ymwneud â https://offer.ndors.org.uk/.

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan UKROEd Ltd. Rydym yn awyddus i gymaint o bobl ag sydd bosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech fod yn gallu:

  • gweld y wefan ar ffurf portread a hefyd ar ffurf tirlun ar ddyfais symudol
  • chwyddo’r dudalen hyd at 200% heb i’r testun orgyffwrdd yn y rhan fwyaf o’r cynnwys
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gyda bysellfwrdd yn unig
  • osgoi dolennau dewislenni ailadroddus yn rhwydd drwy ddefnyddio penawdau ar bob tudalen
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin fel JAWS neu NVDA
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml ag sydd bosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Ar gyfer defnyddwyr Porwr Safari

Er mwyn llywio’r wefan gyda bysellfwrdd yn unig, efallai y bydd angen i chi newid y gosodiadau diofyn.

  • Yn Safari, ewch i “Settings”
  • Yn Settings, dewiswch “Advanced”
  • Gofalwch eich bod yn dewis / ticio “Press tab to highlight each item on a page”.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon?

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Nid yw’r cynllun lliw ar y wefan yn rhoi digon o gyferbyniad ar gyfer rhywfaint o’r testun yn erbyn y cefndir.
  • Mae rhai o’r meysydd ffurflenni’n dangos negeseuon gwall sy’n ymddangos yn ddeinamig ar y dudalen ond nid ydynt yn agored i dechnoleg gynorthwyol.
  • Mae gan rywfaint o’r cynnwys strwythur gweledol sy’n ei wneud yn haws i’w ddeall ond nid yw wedi’i nodi’n semantig, fel tablau a rhestrau.

Mae rhestr lawn o broblemau hysbys gyda’n gwe-dudalennau a allai effeithio ar ddefnyddwyr sydd ag anableddau i’w chael isod o dan cynnwys anhygyrch.

Adborth a manylion cysylltu

Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os teimlwch nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: [email protected]

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon gyda’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol ynglŷn â hygyrchedd y wefan hon

Mae UKROEd Ltd wedi ymrwymo i sicrhau fod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws Cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys Anhygyrch

Mae’r cynnwys sydd wedi’i restru isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Delweddau a chynnwys nad yw’n destun

Mae delweddau addysgiadol heb unrhyw briodoleddau i’w cael yn y cod ar gyfer ychwanegu testun amgen (WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 1.1.1).
Ceir eiconau addurniadol nad ydynt wedi’u cuddio rhag technoleg gynorthwyol (WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 1.1.1).

Lliw a chyferbyniad

Mae rhai dolennau’n dibynnu ar liw yn unig i’w gwahaniaethu nhw oddi wrth gorff y testun (WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 1.4.1).

Strwythur tudalen a chynnwys

Mae rhywfaint o’r testun yn cael ei arddangos yn weledol fel pennawd ond nid yw wedi’i nodi felly ar gyfer technoleg gynorthwyol (WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 1.3.1).
Mae nifer o baragraffau o destun nad ydynt yn gweithredu fel penawdau wedi’u nodi’n amhriodol fel penawdau (WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 1.3.1).
Mae rhywfaint o’r testun yn cael ei arddangos yn weledol fel tabl ond nid yw wedi’i nodi felly (WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 1.3.1).
Mae rhywfaint o’r testun yn cael ei arddangos yn weledol fel rhestr neu restr disgrifiad ond nid yw wedi’i nodi felly (WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 1.3.1).
Mae rhywfaint o’r cynnwys wedi’i guddio yn amhriodol rhag technoleg gynorthwyol (WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 1.3.2).

Rheoliadau ffurflenni

Nid oes gan rai meysydd ffurflenni labeli sy’n gysylltiedig â’r meysydd mewnbwn (WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 1.3.1).
Nid oes gan rai meysydd ffurflenni negeseuon gwall ac nid oes gan rai eraill wybodaeth ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r meysydd mewnbwn (WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 1.3.1).
Nid yw rhai meysydd mewnbwn yn defnyddio’r priodoledd cwblhau awtomatig ac mae rhai eraill wedi gosod y gwerth cwblhau awtomatig ar ‘i ffwrdd’ yn amhriodol (WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 1.3.5).
Mae gan rai meysydd ffurflenni negeseuon gwall sy’n ymddangos yn ddeinamig pan gyflwynir y dudalen, ac nid oes galwad raglennol i weithredu. O ganlyniad, ni fydd technoleg gynorthwyol yn cyhoeddi presenoldeb negeseuon gwall yn awtomatig (WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 3.3.1).
Mae gan rai meysydd ffurflenni negeseuon gwall sy’n ymddangos yn ddeinamig wrth lywio oddi wrthynt, ac nid oes ganddynt alwad raglennol i weithredu. O ganlyniad, ni fydd technoleg gynorthwyol yn cyhoeddi presenoldeb negeseuon gwall yn awtomatig (WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 3.3.1).

Cydrannau rhyngweithiol

Mae enw hygyrch a/neu rôl hygyrch ar goll o rai dulliau rheoli rhyngweithiol (WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 4.1.2).
Mae rhai dulliau rheoli rhyngweithiol yn cael eu hamlygu’n weledol fel rhai perthnasol ar hyn o bryd, ond nid ydynt yn cael eu pennu felly yn rhaglennol (WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 4.1.2).
Gellir ehangu rhai dulliau rheoli rhyngweithiol ond nid ydynt yn cael eu pennu felly yn rhaglennol (WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 4.1.2).
Nid yw rhai elfennau sydd wedi’u hanalluogi yn cael eu pennu felly yn rhaglennol (WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 4.1.2).
Mae gan rai dulliau rheoli rhyngweithiol WAI-ARIA sydd ar goll neu sydd wedi’u camffurfio (WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 4.1.2).
Mae rhai meysydd ffurflenni’n dangos canlyniadau chwilio deinamig nad ydynt wedi’u pennu felly yn rhaglennol. O ganlyniad, nid yw’r canlyniadau chwilio deinamig yn agored i dechnoleg gynorthwyol (WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 4.1.3).

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

  • Mapiau – rydym yn defnyddio mapiau i arddangos eich lleoliadau cwrs agosaf. Rhoddir cyfeiriadau hefyd.
  • Cynnwys trydydd parti y tu allan i reolaeth y sefydliad

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ym mis Ionawr 2025. Bydd yn cael ei adolygu cyn 31 Rhagfyr 2025
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 10-13 Mehefin 2024.
Cynhaliwyd y prawf gan AbilityNet. Cafodd y fersiwn bwrdd gwaith ei phrofi gan ddefnyddio system weithredu Windows 11, porwr Mozilla Firefox, a rhaglen darllen sgrin NVDA 2024. Profwyd y fersiwn symudol gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin VoiceOver ar ddyfais symudol sy’n rhedeg system weithredu iOS 17

Skip to content