doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Tystebau

Ar ôl bod ar y Cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder ddoe yn Cheltenham roeddwn eisiau cysylltu i roi rhywfaint o adborth gwerthfawr.

Doeddwn i ddim yn edrych ymlaen at y digwyddiad ond roeddwn i wedi rhyfeddu o ddifrif at y cynnwys, y ganolfan, y drefn ond yn bennaf yr hyfforddwyr …Byddwn i wrth fy modd yn gweld pob gyrrwr newydd yn cael eu harwain drwy’r cwrs hwn gan fod yr ystadegau a’r senarios sy’n cael eu cyflwyno yn bwerus ac yn gwneud i rywun feddwl o ddifrif.

Roedd (yr hyfforddwyr) yn ardderchog ac yn hoelio sylw’r grŵp mawr ohonom drwy’r adeg. Roedd yr adborth llafar ar y diwedd yn awgrymu fod pawb a oedd yn bresennol yn llawn edmygedd. Da iawn chi!

Daliwch ati gyda’r gwaith da!

Addysgiadol a difyr iawn. Mae’n dangos i chi beth yw effaith emosiynol y pethau a wnewch chi.

Yr hyfforddwr yn hollol WYCH! Wedi dysgu llawer, ond mewn ffordd gyfeillgar a mwynheais ei hiwmor. Diolch o galon, byddaf yn siŵr o newid y ffordd rwy’n gyrru yn y dyfodol. Cyflwyniad arbennig.

Skip to content