Yn UKROEd, rydym yn ymroddedig i gynnal egwyddorion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu ymhob agwedd o’n gweithredoedd. Mae ein hymrwymiad i’r egwyddorion hyn wedi ei wau i mewn i’n llywodraethiant corfforaethol a’n harferion pob dydd.
Cyfrifoldeb Amgylcheddol
Rydym yn deall pwysigrwydd hanfodol cynaliadwyedd amgylcheddol yn ein byd ni heddiw. I leihau ein hôl troed amgylcheddol, rydym yn mynd ati’n weithredol i:
- Fonitro a gostwng ein hallyriadau carbon drwy weithredoedd effeithlon.
- Hybu trafnidiaeth gynaliadwy a lleihau allyriadau sy’n gysylltiedig â
- Hyrwyddo effeithlonrwydd ynni a defnyddio adnoddau mewn ffordd gyfrifol.
- Cefnogi mentrau sy’n diogelu ecosystemau naturiol.
Atebolrwydd Cymdeithasol
Mae ein hymrwymiad i gyfrifoldeb cymdeithasol yn cynnwys ein rhanddeiliaid a’r cymunedau a wasanaethwn. Rydym yn blaenoriaethu hyn:
- Sicrhau amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant o fewn ein sefydliad.
- Cynnal arferion llafur moesegol a pharchu hawliau dynol.
- Ymgysylltu â chymunedau lleol a chyfrannu at eu llesiant.
- Cydweithio â phartneriaid sydd o’r un meddylfryd â ni ac sy’n rhannu ein hymroddiad i effaith gymdeithasol.
Llywodraethu Cryf
Rydym yn cynnal llywodraethiant o’r safon uchaf er mwyn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd. Mae ein harferion llywodraethu’n cynnwys:
- Goruchwyliaeth annibynnol a rheolaeth fewnol gref.
- Gwneud penderfyniadau moesegol a chydymffurfio’n dynn â gofynion cyfreithiol a rheoliadol.
- Adrodd yn rheolaidd i’n rhanddeiliaid am berfformiad ein hegwyddorion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu.
- Blaenoriaethu preifatrwydd a diogelwch data.
Rydym yn cydnabod bod arferion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (ESG) cyfrifol yn hanfodol i’n llwyddiant tymor hir ac i lesiant cymdeithas. Mae UKROEd yn ymroddedig i wella ein perfformiad yn barhaus yn y meysydd hyn ac i gael effaith gadarnhaol ar y byd.
Mae’r Datganiad ESG hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad cadarn i yrru newid cadarnhaol ac i alinio ein gweithredoedd â gwerthoedd a disgwyliadau ein rhanddeiliaid.