Defnyddio ffôn symudol a dyfeisiau eraill ar gwrs NDORS
Cwestiynau Cyffredin
Defnyddio ffôn symudol a dyfeisiau eraill ar gwrs NDORS
Gwaherddir cleientiaid sy’n mynychu cwrs rhag defnyddio ffonau symudol neu ddyfeisiau eraill nad ydynt yn gysylltiedig â’r broses o fynychu cwrs NDORS (ac eithrio yn ystod cyfnodau egwyl sydd wedi’u trefnu).
Pan fydd y cwrs yn dechrau dylid rhoi ffonau/dyfeisiau na fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer y cwrs ar ‘Do Not Disturb’, ‘Meeting’ neu ‘Silent’ a’u cadw o’r neilltu. Dylid diffodd y swyddogaeth ‘dirgrynu’ hefyd er mwyn amharu cyn lleied ag sydd bosibl ar y cwrs. Bydd hyn yn cynnwys watsys clyfar neu ddyfeisiau eraill nad ydynt yn gysylltiedig â’r cwrs.
Er mwyn diogelu preifatrwydd pawb, rhaid ichi beidio â chymryd unrhyw sgrin luniau, ffotograffau na gwneud recordiadau o’r cwrs. Mae UKROEd yn mynd ati i fonitro’r holl sianeli cyfryngau cymdeithasol ac os bydd tor diogelwch data yn cael ei ddarganfod bydd ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i’r achos. Bydd hyn yn golygu fod eich presenoldeb ar y cwrs yn cael ei ddileu a byddwch yn cael eich cyfeirio yn ôl at yr heddlu a fydd yn rhoi cosb o dri phwynt a dirwy i chi.
Mae defnyddio unrhyw ddyfais ar gyfer unrhyw ddiben recordio neu ffotograffig yn cael ei wahardd bob amser yn ystod unrhyw gwrs NDORS.
Pan welir bod unigolyn sydd ar y cwrs wrthi’n defnyddio dyfais yn ystod cwrs, gofynnir iddo adael a bydd yr achos yn cael ei drosglwyddo’n ôl i’r heddlu.
Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?
Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.