Does gen i ddim fy rhif trwydded yrru. Sut allaf i archebu cwrs?
Cwestiynau Cyffredin
Does gen i ddim fy rhif trwydded yrru. Sut allaf i archebu cwrs?
Mae angen i chi gysylltu â’r heddlu a anfonodd y llythyr gwreiddiol atoch chi. Byddwch wedi rhoi eich rhif trwydded yrru iddyn nhw pan wnaethoch chi gyfaddef mai chi oedd yn gyrru’r cerbyd perthnasol. Byddant yn gallu rhoi’r wybodaeth hon i chi.
Gallwch gysylltu â’r Heddlu priodol drwy wneud unrhyw un o’r canlynol:
- Os ydynt ar gael gennych, defnyddiwch fanylion cyswllt yr heddlu sydd yn eich Llythyr Cynnig Cwrs/gohebiaeth gan yr heddlu.
- Ewch ar wefan yr heddlu
- Ffoniwch y rhif “101” nad yw’n wasanaeth argyfwng a gofyn am yr adran sy’n delio â Hysbysiadau Cosb Benodedig
Hefyd, efallai y byddwch eisiau cysylltu â’r DVLA: https://www.gov.uk/contact-the-dvla
Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?
Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.