DriveSafe
Cwestiynau Cyffredin
DriveSafe
Gwybodaeth am gwrs DriveSafe – cwestiynau cyffredin
Pa fath o gwrs yw hwn?
Ar gyfer y Cwrs Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Cyflymder, y Cwrs Ymwybyddiaeth Traffyrdd Cenedlaethol, y Cwrs Beth sy’n ein Gyrru Ni? neu’r Cwrs Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Berygl i Reidwyr, erbyn hyn gallwch gwblhau’r cwrs:
- NAILL AI – ar-lein yn eich cartref eich hun gan ddefnyddio ZOOM gyda 9 cleient a’n Hyfforddwr.
- NEU – yn un o’n lleoliadau ystafell ddosbarth ym Manceinion Fwyaf drwy deithio i naill ai Bolton (Horwich), Trafford neu Gorton – yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael.
Mae’n rhaid i chi ddarparu dogfen adnabod swyddogol gyda llun er mwyn gwneud y cwrs. Dyma rai enghreifftiau:
- trwydded yrru cerdyn llun
- pasbort (dilys neu wedi dod i ben)
- cardiau adnabod ffurfiol (y lluoedd arfog, heddlu, undeb myfyrwyr, cerdyn adnabod cwmni)
- bathodyn glas (parcio i bobl gydag anableddau)
Os ydych yn ansicr a yw eich dogfen adnabod yn dderbyniol cysylltwch â ni cyn eich cwrs.
Os byddwch yn dewis y cwrs ar-lein, bydd angen i chi allu defnyddio dyfais (cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar) gyda microffon a chamera sydd â chysylltiad dibynadwy â’r we sy’n gallu ffrydio fideo. Gallech chi ddefnyddio ffonau clyfar, ond bydd y cwrs yn llawer mwy effeithiol os oes gennych sgrin fwy. Bydd angen i chi fod mewn ystafell breifat, ar eich pen eich hun heb unrhyw ymyriadau. Mae’n rhaid i chi gymryd rhan yn y cwrs ar ei hyd – ni chewch ddiffodd eich gwe-gamera, gadael y cwrs na chael aelodau eraill o’ch cartref yn yr ystafell gyda chi (oni bai bod hynny wedi’i gytuno o flaen llaw). Dylai cleientiaid roi holl sylw i’r cwrs a pheidio â gadael i unrhyw beth dynnu eu sylw.
Ar gyfer y cwrs Gyrru Diogel ac Ystyriol ewch i wefan DriveSafe i gael rhagor o wybodaeth.
Sut ydw i’n cwblhau cwrs digidol ar-lein gyda DriveSafe?
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal ar-lein gan ddefnyddio’r platfform ZOOM gyda hyd at 9 o gleientiaid a’n Hyfforddwr.
I gael gwybodaeth am gwblhau cwrs digidol ar-lein gyda DriveSafe, ewch i www.drivesafe.org.uk lle gallwch ddysgu am:
- y gofynion o ran dyfeisiau
- sut i ymuno â’ch cwrs
- sut i brofi Zoom
- gwybodaeth bwysig arall
Gallwch hefyd wylio ein fideo 2 funud defnyddiol sy’n esbonio sut y gallwch sicrhau eich bod yn ymuno â’ch cwrs digidol ar-lein yn llwyddiannus.
Pryd fyddaf i’n derbyn fy nghyfarwyddiadau am ymuno â’r cwrs DriveSafe ar-lein?
Byddwch yn derbyn e-bost 24 awr cyn dyddiad eich cwrs felly gallwch lawrlwytho a phrofi eich bod yn gallu ymuno â ZOOM yn llwyddiannus. Os na fyddwch chi’n derbyn y ddolen, edrychwch yn eich ffolder ‘sothach’ neu ‘sbam’. Os nad yw yno o hyd, ffoniwch ni cyn eich cwrs ar 0300 123 1518 (rydym yn agored o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 8:30am-3:00pm).
Sut ydw i’n cysylltu â DriveSafe?
Ewch i www.drivesafe.org.uk neu ffoniwch ni ar 0300 123 1518 (rydym yn agored o Ddydd Llun i Ddydd Gwener 8:30am-3:00pm). Byddwch angen eich rhif cyfeirio heddlu a’ch PIN.
Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?
Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.