doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Dyfed Powys

Cwestiynau Cyffredin

Dyfed Powys

Cwestiynau Cyffredin Heddlu Dyfed Powys

  • Sut ydw i’n cysylltu â’ darparydd cwrs?

Drwy ffonio: 01267 618823 (mae llinellau ffôn yn agored rhwng 9am a 12.30pm, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener).  Os yw’r llinellau ffôn yn brysur neu os ydych yn ffonio y tu allan i’r oriau hyn, gadewch neges gan nodi eich enw a’ch rhif cysylltu a byddwn yn eich ffonio’n ôl cyn gynted ag sydd bosibl.

Gellir anfon ymholiadau e-bost hefyd i [email protected]

  • Rydw i angen newid dyddiad fy nghwrs. Beth sydd angen i mi wneud?

Gallwch ail-drefnu eich cwrs ar-lein yn Cyrsiau Addysgu Gyrwyr (dyfed-powys-driver-retraining-courses.co.uk) os yw eich cwrs fwy na 14 diwrnod i ffwrdd.  Os byddwch o fewn y 14 diwrnod, bydd angen i chi gysylltu â’r swyddfa. Gall y bydd ffi aildrefnu yn daladwy.

  • Beth mae’r cwrs yn ei olygu?

Mae cyrsiau ar gael ar-lein ar Microsoft Teams neu mewn ystafell ddosbarth mewn canolfan yn ardal Dyfed-Powys.

Mae’r cyrsiau wedi cael eu cynllunio i addysgu ac i ddeall effaith ymddygiad ar ddefnyddwyr ffordd eraill a’r rhai o fewn y gymuned.  Ni cheir unrhyw brawf ond bydd yn rhaid ichi gwblhau’r cwrs cyfan a chydweithio gyda’r hyfforddwr a’r mynychwyr eraill.

Mae cyrsiau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

  • Mae gen i ofynion arbennig. Allwch chi ddarparu ar gyfer y rhain?

Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig, er enghraifft os byddwch angen cymorth cyfieithydd Saesneg / dehonglydd neu gymorth gyda darllen neu ysgrifennu, neu os oes gennych ofynion bwydo ar y fron neu gyflyrau meddygol/anableddau a allai effeithio arnoch ar y diwrnod, mae’n rhaid i chi gysylltu â ni ar y rhif ffôn uchod cyn archebu cwrs.

Mynychu Cwrs Ar-lein

  • Beth fydd raid i mi gael ar gyfer fy nghwrs?

Bydd angen ichi gael mynediad at liniadur neu lechen a chysylltiad da â’r we. Gellir defnyddio ffonau clyfar ond bydd y cwrs yn llawer mwy effeithiol os bydd gennych sgrin fwy. Bydd angen i’ch dyfais gael digon o bŵer ar gyfer y cwrs cyfan felly byddai’n well ei chysylltu â’r prif gyflenwad drwy’r adeg.

Rhaid i chi fod mewn ystafell breifat pan fyddwch yn gwneud y cwrs, er mwyn i chi gael llonydd i ganolbwyntio.

Rhaid i chi ddarparu dogfen adnabod swyddogol â llun i fynychu’r cwrs.  Enghreifftiau o’r rhain yw trwydded yrru cerdyn-llun, pasbort, bathodyn adnabod gwaith, bathodyn glas, tystysgrif arfau tanio/tystysgrif dryll ac ati.  Os nad ydych yn siŵr a yw eich dogfen adnabod yn dderbyniol, cysylltwch â ni cyn eich cwrs.

Bydd angen beiro, pen marcio a phapur hefyd yn ystod y cwrs.

  • Ar ba blatfform mae’r cwrs yn cael ei gynnal?

Cynhelir y cwrs ar-lein gan ddefnyddio’r platfform digidol Microsoft Teams.

Os ydych yn defnyddio llechen neu ffôn clyfar, rydym yn argymell eich bod yn gosod yr ap Microsoft Teams mewn da bryd cyn eich cwrs.  Gellir lawrlwytho’r ap yn rhad ac am ddim.

Gallwch hefyd ymuno â chyfarfod drwy ddefnyddio porwr gwe neu ap bwrdd gwaith.

Rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn cynnal prawf ar y system cyn amser eich cwrs er mwyn osgoi unrhyw broblemau funud olaf.

  • Sut ydw i’n cael mynediad i’r cwrs?

Bydd y cyfarwyddiadau ymuno yn cael eu hanfon atoch mewn e-bost wythnos cyn eich cwrs o ‘Fastform online bookings’. Cofiwch chwilio yn eich ffolderi sbwriel, sbam neu hysbysiadau os nad yw’r neges wedi cyrraedd eich prif fewnflwch.

Bydd y cyfarwyddiadau ymuno yn cynnwys y ddolen/URL ar gyfer eich cwrs

Unwaith y byddwch wedi cysylltu â’r cwrs, byddwch yn cael eich gosod yn awtomatig mewn ystafell aros lle byddwch yn gweld enw’r cwrs a neges i gadarnhau y bydd yr hyfforddwr yn rhoi mynediad i chi yn fuan.

Rydym wedi creu fideo i chi sy’n rhoi rhagor o wybodaeth ar sut i ymuno â’ch cwrs:

Saesneg: https://youtu.be/Lw5zgeDv2-E

Cymraeg: https://youtu.be/laj2GDu1v9E

  • Nid ydw i’n gwybod llawer am dechnoleg ac rydw i’n poeni am gwblhau’r cwrs. Oes ‘na gymorth ar gael?

Byddwch yn derbyn e-bost saith niwrnod cyn eich cwrs a bydd yn rhoi’r cyfarwyddiadau ymuno i chi a fydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth ac yn cadarnhau beth sydd angen ichi ei wneud i baratoi ar gyfer eich cwrs. Hefyd, ceir dolen at fideo yr ydym wedi ei greu a fydd yn rhoi arweiniad ichi ar sut i ymuno â’ch cwrs:

Saesneg: https://youtu.be/Lw5zgeDv2-E

Cymraeg: https://youtu.be/laj2GDu1v9E

Mae ein tîm swyddfa yn gwbl fodlon trefnu prawf gyda chi ar sut i ymuno â’r cwrs, ond gofynnwn i chi gysylltu â ni mewn digon o amser er mwyn gallu trefnu hyn.

Caniateir i chi gael ffrind neu aelod o’r teulu gyda chi i’ch helpu i fewngofnodi i’ch cwrs, ond bydd angen iddynt adael yr ystafell pan fydd eich cwrs yn dechrau.

Os nad oes gennych yr offer neu’r cymorth angenrheidiol i fynychu eich cwrs, efallai y gallwn gynnig cwrs ystafell ddosbarth ichi mewn canolfan, yn dibynnu ar eich dyddiad critigol a’ch argaeledd.

  • Beth sy’n digwydd os byddaf yn cael problemau technegol wrth gysylltu neu os byddaf yn colli cysylltiad yn ystod y cwrs?

Gofalwch eich bod mor agos ag sydd bosibl at lwybrydd y rhyngrwyd. Diffoddwch pob dyfais arall sydd angen cysylltiad â’r rhyngrwyd er mwyn helpu i gryfhau’r signal.

Os byddwch yn cael trafferth i gysylltu, allgofnodwch a mewngofnodwch eto oherwydd gallai hyn helpu. Gofalwch bod y fideo a’r sain ymlaen pan fyddwch yn ymuno pan ofynnir ichi wneud hynny.

Os byddwch yn colli cysylltiad yn ystod y cwrs, cliciwch ar y ddolen wreiddiol a ddefnyddiwyd i ymuno â’r cwrs i ddechrau. Byddwch yn mynd i’r ystafell aros a bydd eich hyfforddwr yn cael gwybod eich bod wedi ailymuno. Os na fyddwch yn llwyddo i ailymuno, bydd angen i chi gysylltu â’r swyddfa a bydd gennych gyfle i aildrefnu’r cwrs, os bydd lle ar gael.

  • Rwyf yn hwyr ar gyfer fy nghwrs ac nid yw’r hyfforddwr wedi rhoi mynediad i mi. Beth ddylwn i wneud?

Rhaid i chi gysylltu â’r Cynllun Ail-Hyfforddi Gyrwyr cyn gynted ag y gallwch er mwyn gweld a ellir aildrefnu eich cwrs. Gallai telerau ac amodau fod yn berthnasol.

  • Nid oes gen i ddarpariaeth gofal plant. Sut ydw i’n mynychu’r cwrs ar-lein?

Mae’n ofynnol gallu cwblhau’r cwrs mewn ystafell breifat heb unrhyw amhariadau er mwyn ichi allu canolbwyntio a chymryd rhan yn llawn.  Os nad yw hyn yn bosibl, bydd angen ichi ystyried yr opsiynau eraill sydd ar gael. Fodd bynnag mae cyrsiau yn cael eu cynnal ar wahanol adegau o’r dydd gan gynnwys gyda’r nos ac ar ddydd Sadwrn, felly dylech ystyried pa opsiwn fyddai orau i’ch sefyllfa chi.

  • Nid oes unrhyw gyrsiau ar-lein ar gael. Beth ddylwn i wneud?

Cysylltwch â’r Cynllun Ail-hyfforddi Gyrwyr drwy ffonio 01267 618823 neu drwy anfon e-bost i  [email protected] a fydd yn gwneud pob ymdrech i’ch cynorthwyo.

 

 

 

 

 

 

 

 


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content