doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Hoffwn ddod yn ddarparydd cwrs NDORS. Beth sydd angen i mi wneud?

Cwestiynau Cyffredin

Hoffwn ddod yn ddarparydd cwrs NDORS. Beth sydd angen i mi wneud?

Rydym yn aml yn derbyn ymholiadau gan unigolion sy’n cymysgu rhwng bod yn hyfforddwr a bod yn ddarparydd cwrs. Mae hyfforddwyr trwyddedig yn unigolion sydd wedi bodloni’r fanyleb person a’r disgrifiad swydd i gael eu hyfforddi yn ôl ein gofynion llym, i gynnal un neu fwy o’n mathau o gyrsiau i’r cyhoedd mewn ystafell ddosbarth.

Darllenwch sut i ddod yn hyfforddwr  yma

Mae darparydd cyrsiau trwyddedig yn sefydliad neu gorff sydd wedi cael ei achredu a’i drwyddedu’n llwyddiannus gennym ni i ddarparu consesiwn gwasanaeth UKROEd/NDORS i heddlu. Bydd y darparydd cyrsiau wedi mynd drwy broses dendro a chaffael gadarn i ddangos fod ganddo’r gallu a’i fod yn gymwys i ddarparu’r elfen weinyddol i hwyluso cyrsiau a chanfod hyfforddwyr a chanolfannau i gynnal amrywiaeth o gyrsiau NDORS sydd wedi’u rheoleiddio’n llym, i nifer o filoedd o fynychwyr cyrsiau yn ystod cyfnod y contract.

Y peth cyntaf fydd angen i chi ei gael fydd trwydded gan UKROEd i gynnal y cyrsiau. Mae darparwyr cyrsiau’n cael eu comisiynu drwy drefniant yn ôl disgresiwn y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, neu pan fo’n briodol, y Maer sy’n gwasanaethu o fewn ardal diriogaethol yr heddlu. Nid ydym yn comisiynu darparwyr cyrsiau, ni yw’r awdurdod rheoleiddio.

Os byddwch yn gwneud cais i ddod yn ddeiliad trwydded cwrs dros dro bydd angen i chi dalu £750 a TAW cyn yr archwiliad y byddwn yn ei gynnal i benderfynu a ydych yn gymwys i ymgeisio am gontract yr heddlu. Os byddwch yn llwyddiannus yn yr archwiliad cyntaf, bydd hyn yn caniatáu i chi gynnig am gyfleoedd caffael am 2 flynedd ar ôl dyddiad derbyn eich trwydded, wrth i’r cyfleoedd hynny gael eu hysbysebu gan yr heddluoedd. Nid yw bod yn ddeiliad trwydded dros dro yn sicrhau eich bod yn cael contract.

Er mwyn gwneud cais am drwydded dros dro anfonwch e-bost i [email protected]

 

 

 

 


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content