Leicestershire
Cwestiynau Cyffredin
Leicestershire
Gweithdai Addysg i Yrwyr Cyngor Swydd Gaerlŷr
- Sut ydw i’n cysylltu â’m darparydd cwrs?
Er mwyn siarad ag aelod o’n tîm gofal cwsmeriaid, gallwch gysylltu â ni drwy ein ffonio ar 0116 305 8787
Mae ein llinellau yn agored o ddydd Llun i ddydd Gwener:
8:30am i 3:30pm
Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy e-bost yn [email protected]
- Beth fydd ei angen arnaf ar gyfer fy nghwrs?
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal cyrsiau ar-lein a chyrsiau ystafell ddosbarth. Gweler y gofynion ar gyfer y ddau fath o gwrs isod.
Cyrsiau Ar-lein
- Gofynion ar gyfer dyfeisiau
Bydd angen i chi gael mynediad at ddyfais, h.y. llechen, gliniadur neu gyfrifiadur pen desg gyda meicroffon a chamera, a chysylltiad rhyngrwyd dibynadwy sy’n gallu ffrydio fideo.
Gellir defnyddio ffonau clyfar, fodd bynnag bydd y cwrs yn llawer mwy effeithiol os bydd gennych sgrin fwy. Bydd angen ichi gael digon o wefr i bara drwy gydol y cwrs.
- Dogfennau sy’n ofynnol
Ar ddechrau eich cwrs ar-lein gofynnir i chi ddangos Cerdyn/Dogfen Adnabod Gwreiddiol gyda Llun i’n hyfforddwr yn breifat. Dyma enghreifftiau o gardiau/dogfennau adnabod sy’n dderbyniol:
- Trwydded Yrru Cerdyn Llun
- Pasbort dilys
- Pasbort sydd wedi dod i ben, os gellir eich adnabod ynddo
- Cardiau adnabod ffurfiol (lluoedd arfog, heddlu, undeb myfyrwyr, cerdyn adnabod cwmni)
- Cerdyn Tacograff
- Cerdyn adnabod Awdurdod Lleol/Tacsi
- Bathodyn Glas (parcio i bobl ag anableddau)
- Tystysgrif Arfau Tanio/Trwydded Dryll
Bydd methiant i gyflwyno’r dogfennau uchod i’n Hyfforddwr yn golygu eich bod yn anghymwys i fynychu’r cwrs a bydd y mater yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r Heddlu.
Dylech hefyd gael papur a beiro wrth law:
- Ar ba blatfform y cynhelir y cwrs?
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal ein iGwrs ar gyfer Swydd Gaerlŷr ar blatfform digidiol Zoom.
- Sut ydw i’n cael mynediad i’r cwrs?
Er mwyn ymuno â’ch ystafell ddosbarth ddigidol bydd angen i chi ddilyn y camau syml hyn:
- Defnyddiwch eich dyfais i glicio ar y ddolen URL sydd yn eich neges e-bost neu eich neges destun.
- Newidiwch eich enw personol i’ch ENW CYNTAF YN UNIG (fel arall bydd cleientiaid yn gallu gweld yr enw rydych chi’n ei roi yma).
- Gofalwch fod eich Fideo a’ch Sain ymlaen.
- Dewiswch “Ymuno â’r Cyfarfod”.
Os ydych yn defnyddio Ffôn Clyfar neu lechen, efallai yr hoffech lawrlwytho’r ap ZOOM sy’n rhad ac am ddim o’ch siop apiau arferol, a hynny cyn y cwrs. Yna byddwch yn gallu ymuno â’ch iGwrs gan ddefnyddio ID y cyfarfod a’r cyfrinair a gawsoch yn eich neges e-bost neu neges destun.
- Rwyf wedi archebu fy nghwrs. Pryd fyddaf yn derbyn fy nghyfarwyddiadau ymuno a ble ydw i’n dod o hyd iddynt?
Ar ôl archebu eich cwrs byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau’r cwrs. Bydd hwn yn cynnwys yr holl fanylion y bydd angen i chi eu gwybod ar gyfer mynychu eich iGwrs, ond ni fydd yn cynnwys cyfarwyddiadau ynglŷn â sut i ymuno â’r cwrs.
Bum niwrnod cyn eich cwrs byddwch yn derbyn e-bost yn eich atgoffa am y cwrs. Bydd yr e-bost hwn yn cynnwys yr holl gyfarwyddiadau sydd eu hangen arnoch i gael mynediad i’ch cwrs. Os nad ydych yn derbyn yr e-bost hwn dylech chwilio yn eich ffolderi sothach neu sbam. Os na fyddwch yn gallu dod o hyd iddo cysylltwch â’n tîm gofal cwsmeriaid cyn dyddiad eich cwrs ar 0116 305 8787 er mwyn cael rhagor o gymorth.
Os ydych wedi darparu rhif ffôn symudol wrth archebu ac wedi gofyn am neges SMS i’ch atgoffa, byddwch yn derbyn hon 24 awr cyn eich cwrs. Mae hon hefyd yn cynnwys y manylion sydd eu hangen arnoch i ymuno â’ch cwrs.
- Rwyf ar fin cymryd fy nghwrs ond allaf i ddim cael mynediad iddo. Ym mhle ydw i’n dod o hyd i’r cyfarwyddiadau ymuno?
Gweler uchod. Gellir dod o hyd i’ch cyfarwyddiadau ymuno yn yr e-bost sy’n eich atgoffa am y cwrs (a anfonir 5 niwrnod cyn dyddiad eich cwrs) neu yn y neges destun sy’n eich atgoffa am y cwrs (a anfonir 24 awr cyn eich cwrs, os byddwch wedi gofyn i neges atgoffa SMS gael ei hanfon i chi adeg archebu eich cwrs.)
- Dydw i ddim yn gwybod rhyw lawer am dechnoleg ac rwy’n pryderu na fyddaf yn gallu cymryd fy nghwrs rhithiol/ar-lein. Pa gymorth allaf ei gael gan fy narparydd cwrs?
Yn gyntaf, gofalwch eich bod yn darllen eich e-bost cadarnhau cwrs yn ofalus, gan fod hwn yn cynnwys manylion pwysig am fynychu eich cwrs. (Sylwer: nid yw’r cyfarwyddiadau ymuno yn cael eu darparu yn yr e-bost cyntaf hwn.)
Os ydych yn ansicr ynglŷn â sut i gael mynediad i’ch cwrs, gwrandewch ar y fideo tiwtorial canlynol i gael rhagor o wybodaeth ar sut i ddefnyddio ZOOM: https://support.zoom.us/hc/en-us/articles/201362193-How-Do-I-Join-A-Meeting
Bum niwrnod cyn y cwrs byddwch yn derbyn e-bost atgoffa sy’n cynnwys eich cyfarwyddiadau ymuno iGwrs. Gallwch ddefnyddio’r manylion hyn i ymarfer cael mynediad i’r cwrs ar Zoom. Gan nad yw’r cwrs yn fyw eto, byddwch yn derbyn y neges ganlynol: “Waiting for Host to start the meeting”, ond bydd yn caniatáu ichi weld y broses ymuno cyn diwrnod eich cwrs.
Os ydych chi’n dal yn bryderus neu’n ansicr ynglŷn ag unrhyw beth mae croeso i chi gysylltu â’n tîm gofal cwsmeriaid ar 0116 305 8787, a byddwn yn ceisio ateb eich ymholiad.
(Mae ein llinellau yn agored rhwng Dydd Llun a Dydd Gwener: 8:30am i 3:30pm)
Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn paratoi at gael mynediad i’ch cwrs digidol 20-30 munud cyn i’r broses gofrestru ddechrau, er mwyn caniatáu digon o amser ichi ddatrys unrhyw anawsterau technegol. Sylwer: gall y byddwch yn derbyn neges yn dweud “Waiting for Host to start the meeting” os byddwch yn ceisio ymuno cyn i’r broses gofrestru gychwyn. Unwaith y bydd y cwrs wedi dechrau, bydd ein Hyfforddwr hefyd yn ceisio eich helpu gydag unrhyw broblemau technegol a gewch yn ystod y cwrs.
Os byddwch yn cael unrhyw broblemau yn ystod y cwrs oherwydd problemau offer, cysylltwch â’n swyddfa. Un ai drwy ffonio 0116 305 8787 neu drwy anfon e-bost atom [email protected].
Cyrsiau Ystafell Ddosbarth
- Os nad ydych yn teimlo’n dda, beth yw’r gofynion ar gyfer mynychu Cwrs Ystafell Ddosbarth?
Os nad ydych chi’n teimlo’n dda ac yn credu na allwch chi fynd ar eich cwrs, ffoniwch ein swyddfa ar 0116 305 8787 i siarad â’n tîm gofal cwsmeriaid.
Pan fyddwch yn mynd ar gwrs gofynnwn i chi ddilyn y rheolau hylendid sylfaenol hyn er mwyn eich diogelu chi ac eraill rhag anhwylderau cyffredin:
- gorchuddiwch eich trwyn a’ch ceg pan fyddwch yn pesychu ac yn tisian
- golchwch eich dwylo
- glanhewch yr ardal o’ch cwmpas
- Dogfennau sy’n ofynnol
Ar ôl ichi gyrraedd eich cwrs, gofynnir i chi ddangos Cerdyn/Dogfen Adnabod Gwreiddiol gyda Llun i’n hyfforddwr. Cofiwch na fydd copïau digidol neu lungopïau’n dderbyniol.
Dyma enghreifftiau o gardiau/dogfennau adnabod sy’n dderbyniol:
- Trwydded Yrru Cerdyn Llun
- Pasbort dilys
- Pasbort sydd wedi dod i ben, os gellir eich adnabod ynddo
- Cardiau adnabod ffurfiol (lluoedd arfog, heddlu, undeb myfyrwyr, cerdyn adnabod cwmni)
- Cerdyn Tacograff
- Cerdyn adnabod Awdurdod Lleol/Tacsi
- Bathodyn Glas (parcio i bobl ag anableddau)
- Tystysgrif Arfau Tanio/Trwydded Dryll
Bydd methiant i gyflwyno’r dogfennau uchod i’n Hyfforddwr yn golygu eich bod yn anghymwys i fynychu’r cwrs a bydd y mater yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r Heddlu
- Beth sy’n digwydd os byddaf yn cyrraedd yn hwyr?
Mae’n rhaid i chi gyrraedd ar amser ar gyfer eich cwrs. Ni fydd cleientiaid sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad ac, oni bai fod yr amgylchiadau’n rhai eithriadol, bydd eu ffeiliau yn cael eu dychwelyd at yr Heddlu a’r cynnig o gwrs yn cael ei dynnu’n ôl.
Os byddwch angen rhagor o wybodaeth am gyrsiau Ystafell Ddosbarth e.e. lleoliadau’r canolfannau, trefniadau parcio a gofynion arbennig pan fyddwch yn mynychu, ewch i’n gwefan www.drivereducationleicester.com neu mae croeso i chi gysylltu â’n tîm gofal cwsmeriaid ar 0116 305 8787, lle byddwn yn gwneud ein gorau i ateb eich ymholiad.
Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?
Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.