doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Nottinghamshire

Cwestiynau Cyffredin

Nottinghamshire

Safer Roads for Nottinghamshire – Cwestiynau Cyffredin

Sut ydw i’n cysylltu â’m darparydd cwrs? 

Drwy ffonio: 0115 844 5929 – Dydd Llun – Dydd Gwener 08:30 – 16:30 Os yw’r llinellau ffôn yn brysur neu os hoffech gysylltu â ni y tu allan i’r oriau hyn, gadewch neges ffôn ar y peiriant ateb neu e-bostiwch eich ymholiad inni i [email protected] a gadael eich manylion cysylltu a byddwn yn eich ffonio’n ôl.

 

Rydw i angen newid dyddiad fy nghwrs? Beth sydd angen i mi wneud?

Gallwch ail-archebu eich cwrs ar-lein drwy [email protected]  os yw eich cwrs fwy na 14 diwrnod i ffwrdd.  Os ydych o fewn y 14 diwrnod, bydd angen ichi gysylltu â’r swyddfa.  Efallai y bydd yn rhaid ichi dalu ffi ail-archebu.

 

Beth mae’r cwrs yn ei olygu?

Mae cyrsiau ar gael ar-lein drwy Microsoft Teams neu mewn amgylchedd ystafell ddosbarth mewn canolfan o fewn ardal Heddlu Swydd Nottingham.  Mae’r cwrs yn para rhwng 2.45 a 3 awr, heb gynnwys y cyfnod cofrestru.  Bydd egwyl hanner ffordd drwy’r cwrs.

Cynlluniwyd y cyrsiau i addysgu ac i ddeall pa effaith mae ymddygiad yn ei gael ar ddefnyddwyr eraill y ffordd a phobl o fewn y gymuned.  Nid oes prawf yn rhan o’r cwrs ond bydd yn rhaid ichi gwblhau’r cwrs i gyd ac ymgysylltu â’r hyfforddwr a’r cleientiaid eraill sydd ar y cwrs.

 

Mynychu Cwrs Ar-lein

Beth fydd ei angen arnaf ar gyfer fy nghwrs?

Bydd yn ofynnol i chi gael mynediad i un o’r canlynol:

  • Cyfrifiadur
  • Gliniadur
  • Ffôn clyfar
  • Llechen

Gellir defnyddio ffonau clyfar ond rydym yn teimlo y bydd y cwrs yn llawer mwy effeithiol os bydd gennych sgrin fwy.

Fodd bynnag, bydd yn rhaid i’r ddyfais y byddwch yn ei dewis gael gwe-gamera a chysylltiad cadarn â’r rhyngrwyd.  Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu eich dyfais â’r prif gyflenwad drwy gydol y cwrs.

Rhaid i chi fod mewn ystafell breifat pan fyddwch yn gwneud y cwrs, heb unrhyw beth a allai dynnu eich sylw.

Rhaid i chi ddarparu dull adnabod swyddogol gyda llun er mwyn mynychu’r cwrs (dyna bwrpas y gwe-gamera).  Dyma enghreifftiau:

  • trwydded yrru cerdyn llun
  • pasbort
  • bathodyn adnabod gwaith
  • bathodyn glas
  • tystysgrif arfau tanio/trwydded dryll

 

Os nad ydych yn sicr a yw eich dull adnabod yn dderbyniol, cysylltwch â ni cyn eich cwrs.

Bydd angen beiro, pen marcio a phapur hefyd yn ystod y cwrs.

 

Ar ba blatfform y cynhelir y cwrs?

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal ar-lein gan ddefnyddio’r platform digidol Microsoft Teams.

Os byddwch yn defnyddio llechen neu ffôn clyfar, rydym yn argymell eich bod yn gosod ap Microsoft Teams o Google Play neu Apple App Store mewn da bryd cyn eich cwrs.  Nid oes rhaid talu am lawrlwytho’r ap.

Gallwch hefyd ymuno â chyfarfod drwy borwr gwe neu ap bwrdd gwaith.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn treialu’r system ymlaen llaw cyn eich cwrs er mwyn osgoi unrhyw broblemau funud olaf.

 

Sut ydw i’n cael mynediad i’r cwrs?

Bydd cyfarwyddiadau ymuno yn cael eu hanfon drwy e-bost i chi wythnos cyn eich cwrs o ‘Fastform online bookings’. Chwiliwch yn eich ffolderi sothach, sbam neu hysbysiadau os nad ydych wedi derbyn neges yn eich prif fewnflwch.

Bydd y cyfarwyddiadau ymuno yn cynnwys y ddolen/URL ar gyfer eich cwrs.

Unwaith y byddwch wedi cysylltu â’r cwrs, byddwch yn cael eich gosod yn awtomatig mewn ystafell aros lle byddwch yn gweld enw’r cwrs a neges i gadarnhau y bydd yr hyfforddwr yn rhoi mynediad ichi yn fuan.  

 

Dydw i ddim yn gwybod rhyw lawer am dechnoleg ac rwy’n poeni ynglŷn â gwneud y cwrs. A oes ‘na unrhyw gymorth ar gael?

Mae’n bwysig iawn nad ydych yn poeni am hyn.

Mae’r fideo hwn  https://youtu.be/wdRXLcLswUE  yn egluro sut i lawrlwytho Microsoft Teams a mewngofnodi i gwrs ar-lein.  Mae mynychu cwrs ar-lein yn eithaf syml ac nid oes rhaid cael unrhyw arbenigedd technegol.  Mae technegwyr ein Gwasanaeth Cwsmeriaid ar gael i helpu ac yn fwy na pharod i’ch helpu i dreialu sut i ymuno â’r cwrs. Fodd bynnag gofynnwn i chi gysylltu â ni mewn da bryd er mwyn inni allu trefnu hyn.  Caniateir ichi gael ffrind neu aelod o’ch teulu yno i’ch helpu i fewngofnodi i’ch cwrs ond bydd angen iddynt adael yr ystafell pan fydd eich cwrs yn dechrau.

Byddwch yn derbyn e-bost saith niwrnod cyn eich cwrs gyda’r cyfarwyddiadau ymuno a bydd hwn yn cynnwys rhagor o wybodaeth ac yn cadarnhau’r hyn fydd angen ichi wneud i baratoi ar gyfer eich cwrs.

Os nad oes gennych yr offer neu’r cymorth sydd ei angen arnoch i fynychu eich cwrs, efallai y byddwn yn gallu cynnig cwrs ystafell ddosbarth i chi mewn canolfan. Mae hyn yn dibynnu ar eich argaeledd a phryd mae eich cynnig yn dod i ben.

 

Beth sy’n digwydd os bydd gennyf broblemau technegol wrth gysylltu â’r cwrs neu os byddaf yn colli cysylltiad yn ystod y cwrs?

Gwiriwch eich bod mor agos ag sydd bosibl at lwybrydd y rhyngrwyd.  Diffoddwch unrhyw ddyfeisiau eraill sy’n defnyddio’r rhyngrwyd er mwyn helpu i gryfhau’r signal.

Os byddwch yn cael problemau cysylltu, allgofnodwch a mewngofnodwch eto oherwydd gallai hyn helpu. Gofalwch eich bod yn ymuno gyda’r fideo a’r sain ymlaen pan fydd y prompt yn ymddangos.

Os byddwch yn colli cysylltiad yn ystod y cwrs, cliciwch ar y ddolen wreiddiol y gwnaethoch ei defnyddio i ymuno â’r cwrs. Byddwch yn mynd i’r ystafell aros unwaith eto a bydd eich hyfforddwr yn cael gwybod eich bod wedi ailymuno. Os nad ydych yn llwyddo i ailymuno, bydd angen i chi gysylltu â Thechnegwyr y Gwasanaeth Cwsmeriaid a byddwch yn cael cyfle i ail-archebu’r cwrs, gan ddibynnu a fydd y cwrs ar gael.

 

Rydw i’n hwyr i’r cwrs ac nid yw’r hyfforddwr wedi rhoi caniatâd i mi fynd i mewn. Beth ddylwn i wneud?

Rhaid ichi gysylltu ag un o’n Technegwyr yn y Gwasanaeth Cwsmeriaid cyn gynted ag y bo modd i weld a fydd yn bosibl ail-drefnu eich cwrs. Gall y bydd Telerau ac Amodau yn weithredol.

 

A yw’r cwrs yn gyfrinachol?

Ydi. Mae diogelu eich cyfrinachedd o’r pwysigrwydd mwyaf, felly rhaid ichi sicrhau nad oes unrhyw un arall heblaw’r sawl sy’n cymryd rhan yn y cwrs yn gallu gweld eich sgrin. Rydym yn argymell eich bod yn trefnu gwneud y cwrs ar-lein mewn ystafell breifat lle na fydd dim yn amharu arnoch. Ni ddylech chwaith anfon manylion mewngofnodi’r cwrs i unrhyw unigolyn arall.

 

A yw’n hi’n bosibl i mi gael cyfieithydd ar y cwrs?

Ydi.

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, mae’n bosibl ichi gael aelod o’ch teulu neu ffrind i’ch helpu yn ystod y cwrs. Rhowch wybod inni am hyn a nodwch enw’r person pan fyddwch yn archebu’r cwrs.

Sylwer fod unrhyw berson sy’n eich cynorthwyo yn gorfod bod yn 18 oed o leiaf, ac yn rhywun sy’n gyrru car os yw’n bosibl ac sy’n rhugl wrth siarad (a deall) Saesneg a’r iaith arall y cyfieithir iddi. Bydd angen i’r unigolyn hwn hefyd ddarparu cerdyn/dogfen adnabod â llun wrth fynychu’r cwrs gyda chi.

Cofiwch rydym yn cael ein cyfyngu i ganiatáu un mynychwr yn unig gyda chyfieithydd ar unrhyw gwrs.  Mae hyn yn lleihau unrhyw oediadau ac yn sicrhau fod pawb yn cael dysgu cymaint ag sydd bosibl.

Os byddech yn elwa drwy gael cymorth dehonglydd Iaith Arwyddo Prydain (BSL), dylech sôn am hyn wrth un o’n Technegwyr yn y Gwasanaeth Cwsmeriaid pan fyddwch yn archebu eich cwrs a byddwn yn trefnu ac yn talu am hyn.

 

A yw eich cyrsiau yn gwbl hygyrch?

Pan fydd unrhyw ddarpar gleient yn archebu cwrs gyda ni, byddem yn gofyn i’r person hwnnw nodi a oes ganddo angen arbennig i’w helpu i gael mynediad a chymryd rhan lawn mewn cwrs. Bydd pob addasiad rhesymol bosibl yn cael ei wneud i sicrhau’r profiad gorau i’r holl gleientiaid. Cysylltwch â Thechnegwyr Gwasanaeth Cwsmeriaid Safer Roads for Nottinghamshire drwy ffonio 0115 8444 5929 i roi gwybod inni am unrhyw ofynion arbennig.

 

Does gen i ddim darpariaeth gofal plant. Sut ydw i’n mynychu cwrs ar-lein?

Mae’n ofyniad eich bod yn gallu cwblhau’r cwrs mewn ystafell breifat heb ddim yn amharu arnoch er mwyn ichi allu canolbwyntio a rhoi eich holl sylw i’r cwrs. Bydd angen ichi ystyried pa opsiwn sydd orau ar gyfer eich amgylchiadau.

 

Does dim cyrsiau ar gael ar-lein. Beth ydw i’n wneud?

Cysylltwch â Thechnegwyr Gwasanaeth Cwsmeriaid Safer Roads for Nottinghamshire drwy ffonio 0115 844 5929 neu drwy anfon e-bost i  [email protected] a byddant yn gwneud pob ymdrech i’ch helpu.


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content