Os ydw i’n goruchwylio gyrrwr sy’n dysgu sy’n cyflawni trosedd, a fyddaf yn cael cynnig cwrs?
Cwestiynau Cyffredin
Os ydw i’n goruchwylio gyrrwr sy’n dysgu sy’n cyflawni trosedd, a fyddaf yn cael cynnig cwrs?
Mae’r penderfyniad i erlyn ai peidio yn dibynnu’n llwyr ar yr heddlu sy’n delio â’r drosedd.
Er hynny, ac at ei gilydd, nid yw’r person sy’n goruchwylio gyrrwr sy’n dysgu yn awtomatig yn cyflawni unrhyw droseddau a gyflawnir gan y gyrrwr.
Mae’n rhaid cael tystiolaeth o euogrwydd o helpu, annog, cwnsela neu beri, neu ysgogi i gyflawni’r drosedd. Hyd yn oed os oes gan y cerbyd offer rheoli deuol ac os gallai’r addysgwr fod wedi defnyddio’r brêc, nid yw ef/hi yn cyflawni’r drosedd drwy beidio â gwneud hynny.
Os yw’r addysgwr wedi cymryd drosodd ac yn rheoli’r llyw o sedd y teithiwr ac os yw’n defnyddio’r offer rheoli deuol i reoli’r pedalau, yna’r addysgwr nid y disgybl a fyddai’n “gyrru” yr adeg honno, a gallai fod yn gymwys i fynd ar gwrs fel rhan o’r broses o ddatrys y drosedd.
Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?
Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.