Pryd oedd y tro diwethaf i mi fod ar gwrs?
Cwestiynau Cyffredin
Pryd oedd y tro diwethaf i mi fod ar gwrs?
Os yw eich Cyfeirnod gennych byddwch yn gallu gweld eich data yn https://offer.ndors.org.uk drwy Cofrestru gan ddefnyddio eich Cyfeirnod a rhoi rhif eich Trwydded Yrru yn y maes PIN yn lle rhif PIN. Os nad oes gennych eich cyfeirnod neu os ydych chi eisiau gweld manylion cyrsiau blaenorol, dewiswch ‘Wedi anghofio eich cyfeirnod’ – bydd hyn yn rhoi mynediad i’r dudalen cais am wybodaeth a bydd angen i chi nodi rhif eich trwydded yrru.
Bydd angen i chi ychwanegu’r cod post a ddefnyddiwyd gennych adeg y drosedd a rhif ffôn sy’n gallu derbyn negeseuon testun.
Yna bydd rhaid i chi gytuno i dderbyn telerau’r ddeddf camddefnyddio cyfrifiaduron cyn mynd ymhellach.
Bydd cod dilysu unigryw ‘unwaith yn unig’ yn cael ei anfon i chi. Bydd angen i chi gofnodi hwn ar y sgrin a chlicio ‘dilysu’.
Os yw eich cyfeiriad e-bost ar ein system yn barod byddwn yn gofyn i chi gadarnhau a hoffech dderbyn y manylion yn y cyfeiriad hwn neu gallwch roi cyfeiriad e-bost arall.
Os yw eich holl fanylion yn cyfateb, byddwn yn gadael ichi wybod fod yr wybodaeth y gwnaethoch ofyn amdani yn cael ei hanfon atoch.
Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?
Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.