Warwickshire
Cwestiynau Cyffredin
Warwickshire
Cwestiynau Cyffredin Cyngor Swydd Warwick
Rydym yn cynnig Cyrsiau Addysgu Gyrwyr ar-lein neu mewn ystafell ddosbarth
- Sut ydw i’n cysylltu â Darparydd Cyngor Swydd Warwick?
Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio ein llinell ffôn archebu 01926 412 990
Dyma ein oriau agor ar gyfer ffonio:
Dydd Llun – Dydd Iau 0730 – 1700 Dydd Gwener 0730 – 1545
Fel arall, gallwch anfon e-bost i [email protected]
Gofalwch fod gennych eich cyfeirnod WCC neu eich rhif rhybudd heddlu wrth law
- Ble mae’r cyrsiau ystafell ddosbarth yn cael eu cynnal?
Ar hyn o bryd mae gennym 4 canolfan:
- Oakridge Golf Club Arley Nuneaton CV10 9PH
2. Sports Connexion Ryton on Dunsmore CV8 3FG
3. King Court Hotel, Alcester B49 5QQ
4. Delta Marriot Hotel, Warwick CV34 6RE
Gellir dod o hyd i’r cyfeiriad llawn a’r map ar ein gwefan
http://www.warwickshire.gov.uk/drivertraining
- Beth fydd ei angen arnaf ar gyfer fy nghwrs ar-lein?
Er mwyn mynychu eich cwrs, mae arnoch angen dyfais fel gliniadur, llechen, iPad, cyfrifiadur pen desg neu ffôn clyfar. Bydd angen i’ch dyfais gael camera a microffon. Bydd angen i’r ddyfais hon gael cysylltiad sefydlog a digon o fatri ar gyfer y cwrs cyfan.
Dull adnabod â ffotograff. Dylid cyflwyno hwn i’r Hyfforddwr yn ystod y cyfnod cofrestru.
Dylech gael papur a beiro wrth law yn barod i wneud unrhyw nodiadau.
- Ar ba blatfform mae’r cwrs yn cael ei gynnal?
Bydd eich cwrs yn cael ei gynnal ar Microsoft Teams
- Rydw i wedi archebu fy nghwrs. Pryd fyddaf i’n derbyn fy nghyfarwyddiadau ar sut i ymuno?
Ar ôl i chi archebu gyda Chyngor Sir Swydd Warwick byddwch yn derbyn neges e-bost i gadarnhau (o Fastform Online Booking) a fydd yn cadarnhau dyddiad ac amser eich cwrs. Chwiliwch yn eich ffolder sothach neu sbam os nad ydych wedi derbyn yr e-bost yn eich mewnflwch. Bydd y neges hefyd yn cynnwys gwybodaeth a chanllawiau ar sut i gael mynediad i’ch cwrs ar y ddyfais yr ydych wedi dewis ei defnyddio. Gellir dod o hyd i’r canllawiau hyn yn
https://www.warwickshire.gov.uk/drivertraining
- Sut ydw i’n cael mynediad i’m cwrs?
Byddwch yn derbyn dolen i ymuno 24-48 awr cyn eich cwrs, drwy e-bost. Os gwelwch yn dda chwiliwch yn eich ffolder sothach neu sbam os nad ydych wedi derbyn yr e-bost yn eich mewnflwch.
Ar ddiwrnod eich cwrs, 5 munud cyn eich amser cychwyn, cliciwch ar y ddolen (Join
Microsoft Teams Meeting) a dilynwch y cyfarwyddiadau sy’n ymddangos ar y sgrin, a chaniatáu promptiau sy’n gofyn am fynediad i’ch camera a’ch microffon. Cofiwch – mae’r cyfnod cofrestru yn para 20 munud. Os byddwch angen unrhyw gymorth gyda’r broses hon, cysylltwch â’r tîm archebu ar 01926 412 990 a byddwch yn eich arwain drwy’r broses dros y ffôn.
- Beth sy’n digwydd os na allaf gael mynediad i’r cwrs mewn pryd?
Gallai ein tîm archebu geisio cysylltu â chi drwy eich ffonio. Bydd hyn yn ymddangos fel rhif wedi’i atal i gynnig cymorth ar sut i gael mynediad i’ch cwrs. Os yw’r cyfnod cofrestru wedi mynd heibio, byddwn yn ailarchebu eich cwrs os bydd dyddiad cwblhau’r heddlu yn caniatáu hynny.
- Dydw i ddim yn deall rhyw lawer am dechnoleg. Pa gymorth fydd yn bosibl i mi ei gael?
Unwaith y byddwch wedi derbyn eich dolen ymuno (a dderbynnir drwy e-bost 24-48 awr cyn eich cwrs) cysylltwch â’n tîm archebu ar 01926 412 990. Gallwn gynnal galwad prawf ar y ffôn i’ch helpu i gael mynediad i’r meddalwedd a threialu eich microffon a’ch camera i weld eu bod yn gweithio’n iawn cyn eich cwrs.
- Allaf i newid dyddiad fy nghwrs? Sut mae gwneud hynny?
Gallwch. Os oes gennym ddyddiadau cyrsiau ar gael ac os yw eich dyddiad cwblhau a drefnwyd gan yr Heddlu yn caniatáu hynny, gallwn newid dyddiad eich cwrs yn rhad ac am ddim. Os na allwn gynnig dyddiad addas, gallwn ad-dalu costau eich cwrs yn llawn fel y gallwch gysylltu â darparwyr eraill i drefnu dyddiad arall.
- Dydw i ddim yn gallu dod o hyd i gwrs ar-lein. Beth sy’n digwydd nesaf?
Ffoniwch ein llinell gymorth. Efallai y byddwn yn gallu eich helpu i archebu lle ar gwrs. Nid yw’n ein holl gyrsiau ar gael ar-lein.
Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?
Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.