Wedi anghofio/colli Cyfeirnod
Cwestiynau Cyffredin
Wedi anghofio/colli Cyfeirnod
Mae’n bosibl i chi gael mynediad i’ch data yn https://offer.ndors.org.uk yn Cofrestru. Os nad yw eich cyfeirnod gennych neu os ydych yn dymuno cael mynediad i wybodaeth am gyrsiau blaenorol, dewiswch ‘Wedi anghofio fy nghyfeirnod’ – bydd hyn yn rhoi mynediad i’r dudalen cais am wybodaeth a bydd angen ichi nodi rhif eich trwydded yrru.
Bydd angen i chi ychwanegu’r cod post a ddefnyddiwyd gennych adeg y drosedd a rhif ffôn lle gallwch dderbyn negeseuon testun.
Yna bydd rhaid i chi gytuno i dderbyn telerau’r ddeddf camddefnyddio cyfrifiaduron cyn mynd ymhellach.
Bydd cod dilysu unigryw ‘unwaith yn unig’ yn cael ei anfon i chi. Bydd angen i chi gofnodi hwn ar y sgrin a chlicio ‘dilysu’.
Os yw eich cyfeiriad e-bost ar ein system yn barod byddwn yn gofyn i chi gadarnhau a hoffech dderbyn y manylion yn y cyfeiriad hwn neu gallwch roi cyfeiriad e-bost arall.
Os yw eich holl fanylion yn cyfateb, byddwn yn gadael ichi wybod fod yr wybodaeth y gwnaethoch ofyn amdani yn cael ei hanfon atoch.
Os nad oes gennych ffôn sy’n derbyn negeseuon testun, bydd angen i chi anfon rhif eich Trwydded Yrru a llun wedi’i sganio/ffotograff o’ch trwydded yrru cerdyn-llun sy’n dangos yr un Rhif Gyrrwr i – [email protected] fel y gallwn wirio pwy ydych a dod o hyd i’ch cofnod.
Ein nod yw ymateb i’ch ymholiad o fewn 10 diwrnod gwaith.
Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?
Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.