Dod yn aseswr
Mae UKROEd yn rym cadarnhaol yn narpariaeth yr addysg i yrwyr a reidwyr a roddir i’r rhai sy’n cyflawni troseddau moduro llai difrifol wrth yrru, yn lle eu herlyn.
Prif nod cynllun NDORS, wrth gefnogi gwasanaeth heddlu’r DU, yw newid ymddygiad defnyddwyr y ffyrdd a gostwng troseddu. I wneud hynny rydyn ni’n gofyn i aseswyr gynnal asesiad trwyadl o hyfforddwyr trwyddedig UKROEd sy’n darparu cyrsiau NDORS.
Oes gennych chi’r sgiliau angenrheidiol a’r galluoedd yr ydym eu hangen i sicrhau bod yr hyfforddwyr yn darparu eu cyrsiau’n gyson ar draws y DU?
Ymgeiswyr llwyddiannus
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gontractwyr hunangyflogedig sydd yn gweithio gartref, a bydd disgwyl iddynt deithio i amrywiol ganolfannau hyfforddi ar draws eu siroedd eu hunain a rhai cyfagos.
Byddant yn derbyn tâl ar gyfradd benodol am bob cwrs a asesir, a bydd hyn yn cynnwys treuliau teithio, amser teithio, gwaith cwblhau adroddiadau a defnyddio eu hoffer TGCh eu hunain.
Mae’r treuliau, sy’n cynnwys y milltiroedd a deithir dros yr uchafswm gofynnol, yn cael eu talu pan fo’n briodol a phan fyddant yn cael eu hawdurdodi. Oni bai fod cytundeb fel arall, disgwylir i unrhyw aseswyr a benodir gynnal o leiaf wyth asesiad y mis ar gyfartaledd.
Bydd y rheiny sy’n llwyddiannus yn y cyfweliad yn atebol i wiriad archwilio’r heddlu cyn y gwneir unrhyw apwyntiad.
Bydd cyfleoedd a swyddi gwag yn cael eu hysbysebu ar dudalennau cyfleoedd y wefan.