Cefndir y cynllun
Deilliodd Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru o argymhelliad a wnaed gan Dr Peter North (Syr Peter North) yn ei Adolygiad o Ddeddf Traffig Ffyrdd yn 1988. Roedd yr adroddiad hwn, a gomisiynwyd gan yr Adran Drafnidiaeth, yn cynnwys nifer o argymhellion sydd bellach yn rhan hanfodol o orfodaeth arferol.
Yr athroniaeth gyffredinol yw y gellid cynnig cwrs i fodurwyr fel dewis arall yn lle cosbau gorfodi, a hynny’n unig pan fo’u gyrru wedi arwain at ddiffyg canolbwyntio neu gamfarnu, heb unrhyw ganlyniadau difrifol neu risg uchel.
Yr heddlu a ddatblygodd y polisi sydd y tu ôl i NDORS ac mae’r cynllun yn cael ei weithredu ar ran yr heddlu, sy’n cydnabod gwerth ceisio newid sut mae pobl yn gyrru yn hytrach na rhoi dirwy a phwyntiau cosb ar drwyddedau am gyflawni troseddau traffig.
Mae’r Cynllun wedi tyfu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac erbyn hyn mae’n ymdrin â mwy na miliwn o gleientiaid bob blwyddyn. Am y rheswm hwn, ystyriwyd bod angen datblygu UKROEd, fel cwmni gyda’i fwrdd cyfarwyddwyr ei hun, er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cael ei lywodraethu’n gadarn.
Targedu Ymddygiad
Daw’r enw UKROEd o United Kingdom Road Offender Education – sy’n dangos y pwyslais a roddwn ar addysgu a hyfforddi gyrwyr sy’n cyflawni mathau penodol o droseddau traffig ledled y DU.
Dangosodd adroddiad gan Ipsos MORI yn 2018 fod targedu ymddygiad modurwyr drwy gyfrwng cyrsiau UKROEd wedi gostwng y tebygolrwydd y byddent yn aildroseddu o fewn chwe mis o hyd at 23 y cant. Dangosodd yr adroddiad hefyd, o edrych ar gyfnod o dair blynedd, fod cymryd rhan yn y cwrs yn ffordd fwy effeithiol o ostwng ailgyflawni troseddau cyflymder na rhoi dirwy a phwyntiau cosb.
Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar ddata a ddarparwyd ar gyfer 2.2. miliwn o yrwyr gan ddefnyddio cofnodion a ddarparwyd gan 13 o heddluoedd yn Lloegr ar gyfer y cyfnod 2012 -2017. O’r rhain, roedd 1.4 miliwn wedi derbyn cynnig i fynd ar y cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder Cenedlaethol
Swyddogaethau UKROEd
Dyma swyddogaethau UKROEd:
- datblygu cyrsiau
- sicrhau safon hyfforddwyr a darparwyr
- caniatáu i aelodau’r cyhoedd ddewis ymhle yr hoffent fynd ar gwrs
- alldalu ffioedd cyrsiau a delir gan aelodau’r cyhoedd sy’n mynychu cyrsiau
- adennill costau gweinyddol darparwyr cyrsiau a gweithgareddau gorfodaeth yr heddlu.
Mae UKROEd yn darparu llywodraethiant canolog, safonau a chysondeb cynllun NDORS yr heddlu (Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru). Rôl UKROEd yw cynorthwyo heddluoedd i gynnig cyrsiau o safon uchel, yn gyson ym mhob un o ardaloedd yr heddlu, er mwyn newid ymddygiad pobl a chwarae rhan bwysig yn y gwaith o leihau gwrthdrawiadau, marwolaethau ac anafiadau defnyddwyr y ffordd.
Yr Ymddiriedolaeth Diogelwch ar y Ffyrdd
UKROEd yw’r is-gwmni masnachu nid-er-elw sy’n eiddo yn llwyr i’r Ymddiriedolaeth Diogelwch ar y Ffyrdd.
Mae’r Ymddiriedolaeth Diogelwch ar y Ffyrdd yn ymddiriedolaeth annibynnol sy’n dyfarnu grantiau i gefnogi prosiectau a gwaith ymchwil sy’n gwneud ffyrdd y DU yn fwy diogel i holl ddefnyddwyr y ffordd – cerddwyr, seiclwyr, defnyddwyr sgwteri symudedd, gyrwyr ceir, lorïau a faniau a beicwyr modur.
Mae’r Ymddiriedolaeth Diogelwch ar y Ffyrdd yn cefnogi amrywiaeth o fentrau diogelwch ar y ffyrdd drwy gynnig grantiau, ac mae cyllid ar gael tuag at brosiectau sy’n bodloni eu meini prawf. Mae grantiau ar gael am hyd at ddwy neu dair blynedd, a gallant amrywio o £10,000 i £200,000 yn ddibynnol ar y rownd ariannu.
Trwy weithredu’r Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru a thrwy addysgu troseddwyr y ffordd, mae UKROEd yn gwneud y gwaith masnachu ar gyfer diben pennaf yr elusen i’w helpu i gyflawni ei hamcanion elusennol. Er bod UKROEd wedi bod yn gweithredu am fwy nag 20 mlynedd, dim ond yn 2016 y sefydlwyd strwythurau llywodraethu cyfredol UKROEd a hynny wedi i’r Ymddiriedolaeth Diogelwch ar y Ffyrdd gael ei chreu fel rhiant-elusen iddo.