Sicrhau ansawdd
Ar ran gwasanaeth heddlu’r DU, mae UKROEd yn datblygu manylebau’r cyrsiau, a chymwysterau a gofynion addysgwyr a hyfforddwyr, a chefnogir y rhain gan drefn sicrhau ansawdd gadarn.
Mae’r gwaith o ddarparu cyrsiau i heddluoedd wedi’i drefnu ar sail yr heddlu unigol, a phob heddlu yn penderfynu ar y ffordd orau o sicrhau gwasanaethau lleol. Gall hyn amrywio o broses gaffael Ewropeaidd lawn i femorandwm cyd-ddealltwriaeth lleol.
Mae trwyddedu yn arwain at drefniant cyfreithiol rwymol â darparwyr cyrsiau, addysgwyr a hyfforddwyr, i sicrhau cydymffurfiad â’r gofynion cenedlaethol wrth ddarparu cyrsiau.
Mae holl gyrsiau NDORS a’r deunydd cysylltiedig wedi’u cofrestru â’r Swyddfa Eiddo Deallusol ac maent felly wedi eu diogelu gan y gyfraith.