Mae UKROEd yn gwmni preifat nid-er-elw, sy’n arwain y gwaith o reoli a gweinyddu Cynllun NDORS ar ran gwasanaeth yr Heddlu. Roedd yn angenrheidiol datblygu UKROEd gan fod y cynllun wedi tyfu’n sylweddol ac mae bellach yn cynnwys cannoedd o filoedd o ddefnyddwyr bob blwyddyn. Mae sefydlu UKROEd fel cwmni gyda’i fwrdd cyfarwyddwyr ei hun yn sicrhau fod y cynllun yn cael ei lywodraethu’n gadarn.
Daw’r enw UKROEd o United Kingdom Road Offender Education – sy’n dangos i ba raddau y rhoddir pwyslais ar addysgu a hyfforddi gyrwyr sy’n cyflawni troseddau llai difrifol ledled y DU.
Swyddogaethau UKROEd yw darparu gofynion y cwrs, sicrhau safon hyfforddwyr a darparwyr a chaniatáu i’r cyhoedd ddewis ymhle yr hoffent fynd ar gwrs a hynny yn unrhyw le yn y DU, yn ogystal â chasglu a dosbarthu costau gweinyddu darparwyr y cyrsiau ac Adfer Costau Gorfodaeth yr heddlu yn eu tro.
Dysgwch am Fwrdd UKROEd:
Darllenwch am gyfrifoldebau UKROEd: